Thema'r arddangosfa sydd eisoes wedi ymweld ag Oriel Ynys Môn, ac Oriel Plas Glyn y Weddw, Gwynedd yw "Bro Gynefin", ac mae'r gwaith amrywiol yn gofnod arbennig o dirlun a chymunedau amrywiol gogledd Cymru drwy lygaid y plant ifanc sy'n trigo yno.
Bydd yr arddangosfa ar agor hyd 9 Chwefror, 2008. Mae mynediad i'r Oriel am ddim, ond cynghorir rhai sy'n bwriadu teithio o bell i ymweld yr arddangosfa i gysylltu o flaen llaw.
Dywedodd Gwawr Wyn Roberts, Swyddog Datblygu Celfyddydau Cymunedol:
"Mae hyn yn gyfle gwych i blant Gwynedd a Môn gael arddangos eu gwaith celf mewn oriel ryngwladol o safon.
"Mae'r plant, eu hathrawon a'r artistiaid proffesiynol a fu'n eu hyfforddi i gyd i'w llongyfarch yn fawr am eu gwaith caled. Mae'n anrhydedd aruthrol fod gwaith creadigol y plant yn cael ei arddangos, ac mae'n tanlinellu'r gallu creadigol sydd ar gael yma ymhlith ein plant a'n pobl ifanc."