Map o'r wefan  |  Maint testun: A (arferol) | A (canolig) | A (mawr)  |  Cyferbyniad: A (arferol) | A (canolig) | A (uchel)  |  Hygyrchedd  |  Cymorth

Cyngor Gwynedd Council

   
CartrefCysylltu â niGwnewch o ar-leinA-Y o wasanaethauAdrannauMapiauFy NghyfrifEnglish
Rydych chi yma: Cartref > Newyddion > Datganiadau i'r Wasg > Datganiadau 2007 > Tachwedd
 

Llwyddo’n Lleol yng Ngwynedd

Cafodd bron i 300 o ddisgyblion blwyddyn 9 Gwynedd brofi a chael gweld rhai o fusnesau gorau ac unigryw'r sir yn ystod Sioeau Teithio rhaglen Llwyddo’n Lleol. Cynhaliwyd pedwar digwyddiad yn ddiweddar ym Mhlas Menai, Y Felinheli, a chanolfan ymwelwyr Trawsfynydd.

Roedd y gweithdai interactif gan y reslar Bari Griffiths (Celtic Warrior) a’r bandiau Genod Droog a Vanta yn llwyddiant mawr gyda’r disgyblion ar draws Gwynedd, ac yn amlygu bod posib creu cyfleoedd difyr ar eich stepen drws. 

Cafodd y disgyblion flas ar bît bocsio, dysgu am fod yn reslar proffesiynol; a chael cyfle yn ogystal yn sesiwn ‘Holi’r Cyngor’ i ofyn cwestiynau i Gyngor Gwynedd am faterion yr oeddynt yn ei deimlo oedd yn bwysig i bobl ifanc y sir.  Bydd y cwestiynau a’r ymatebion a roddwyd yn ymddangos ar wefan Llwyddo’n Lleol.  

Cafwyd Cystadleuaeth Marchnata Sioeau Teithiol Llwyddo’n Lleol, lle gofynnwyd i’r ysgolion ddod fyny gyda syniadau creadigol ac arloesol i hyrwyddo Llwyddo’n Lleol i bobl ifanc y sir. Roedd yr enillwyr yn cynnwys Ysgolion Eifionydd, Porthmadog ac Y Moelwyn, Blaenau Ffestiniog, a derbyniodd y grwpiau buddugol dlysau a thystysgrifau

Ariennir Llwyddo’n Lleol gan Lywodraeth Cynulliad Cymru drwy eu rhaglen Gweithredu Dros Gymunedau Gwledig, Cyngor Gwynedd, Asiantaeth Digomisiynu Niwclear a rhwydwaith 14-19 Gwynedd. Pwrpas y rhaglen yw dangos bod Gwynedd yn lle da i fyw a mentro, a bod modd llwyddo ymhob agwedd o fywyd o fewn y sir.  

Roedd Nia Swann, Swyddog Datblygu Llwyddo’n Lleol yn hapus iawn gyda’r digwyddiadau eleni: 

“Roedd y Sioeau Teithiol yn gyfle gwych i amlygu’r amrediad o gyfleoedd busnes sydd ar gael i bobl ifanc yng Ngwynedd.  Cafodd y mynychwyr glywed gan bobl ifanc y sir sydd wedi dechrau mentrau llwyddiannus eu hunain, a gyda gwaith caled ac agwedd bositif gall rhywbeth sydd yn eich diddori ei droi i fod yn fusnes llwyddiannus.”

 



Methu dod o hyd i'r hyn roeddech yn chwilio amdano? Defnyddiwch yr A-Y neu chwiliwch y wefan
Diweddarwyd: 16/11/2010
 
Telerau ac Amodau|Preifatrwydd a Chwcis|© Hawlfraint Cyngor Gwynedd 2011
Sgipio i [ brig y dudalen ]