Map o'r wefan  |  Maint testun: A (arferol) | A (canolig) | A (mawr)  |  Cyferbyniad: A (arferol) | A (canolig) | A (uchel)  |  Hygyrchedd  |  Cymorth

Cyngor Gwynedd Council

   
CartrefCysylltu â niGwnewch o ar-leinA-Y o wasanaethauAdrannauMapiauFy NghyfrifEnglish
Rydych chi yma: Cartref > Newyddion > Datganiadau i'r Wasg > Datganiadau 2007 > Hydref
Prif Gategori : Newyddion
Cyfredol : Hydref |
 

Darlith Flynyddol Llyfrgell Penygroes – Dathlu 40 mlynedd (Rhan 2)

Dewi R Jones yn cyflwyno copi o'i ddarlith i Cyng Meinir Owen a Cyng O.P.Huws
Dewi R Jones yn cyflwyno copi o'i ddarlith i Cyng Meinir Owen a Cyng O.P.Huws

Ar nos Iau, 11 Hydref, cynhaliwyd darlith flynyddol llyfrgell Penygroes yn neuadd Ysgol Bro Lleu.

Roedd y noson yn dathlu deugain mlynedd o draddodi’r ddarlith arbennig hon, ac eleni roedd y darlithydd, Dewi R Jones,  yn pwyso a mesur y cynnyrch. Roedd yn cynnig blas o’r meddwl, y paratoi a’r traddodi huawdl a fu. Nodir mai prif drywydd a chyfeiriad y casgliad hon o ddarlithoedd yw dylanwad y fro a’i chymeriadau ar bersonoliaeth a gyrfa’r mwyafrif o’r darlithwyr.

Traddodwyd y ddarlith gyntaf yn 1967 gan Gwilym R Jones a bu Kate Roberts, John Gwilym Jones, Thomas Parry, Elan Closs Stephens a Karen Owen ymysg y rhai a fu’n cyflwyno'r ddarlith dros y blynyddoedd .

Trefnir darlith Llyfrgell Penygroes yn flynyddol gan Wasanaeth Llyfrgell a Gwybodaeth Cyngor Gwynedd  a chyhoeddir y ddarlith i’w gwerthu. Sefydlwyd y ddarlith gan y Gwasanaeth Llyfrgell gyda chefnogaeth cymynrodd Elisabeth Hughes sef gymynrodd i sefydlu a hyrwyddo gwaith y Gwasanaeth Llyfrgell ym Mhenygroes a’r cylch.

Dewi R Jones, mab fferm o Fryncir oedd yn gyfrifol am y ddarlith eleni. Derbyniodd ei addysg yn Ysgol Gynradd Garndolbenmaen, Ysgol Dyffryn Nantlle a Choleg y Brifysgol Bangor. Mae ganddo gysylltiad cryf â’r Dyffryn oherwydd nid yn unig fe dderbyniodd ei addysg uwchradd yma, ond dychwelodd i’r ysgol fel Pennaeth yr Adran Gymraeg yn ystod yr wythdegau, ac yna dychwelyd fel Prifathro rhwng 1999 a Haf 2007. Mae bellach yn Bennaeth Gwasanaeth Ysgolion Cyngor Gwynedd.  

Am wybodaeth bellach, cysylltwch â Hywel James Prif Lyfrgellydd Cyngor Gwynedd ar 01286 679504 neu anfonwch e-bost at HywelJames@gwynedd.gov.uk

LLUN: Y darlithydd Dewi R Jones yn cyflwyno copi o'i ddarlith 'Hiraeth Doeth' i  Gadeirydd y Cyngor Gwynedd Cyng Meinir Owen a Chadeirydd Pwyllgor Cymynrodd Elizabeth Hughes, Cyng O.P.Huws



Methu dod o hyd i'r hyn roeddech yn chwilio amdano? Defnyddiwch yr A-Y neu chwiliwch y wefan
Diweddarwyd: 20/03/2008
 
Telerau ac Amodau|Preifatrwydd a Chwcis|© Hawlfraint Cyngor Gwynedd 2011
Sgipio i [ brig y dudalen ]