Bwriad Cynhadledd Democratiaeth Pobl Ifanc Gwynedd sydd wedi ei threfnu i nodi Wythnos Democratiaeth Leol, yw codi ymwybyddiaeth pobl ifanc am broesesau a sefydliadau democrataidd yn lleol, rhanbarthol a chenedlaethol.
Mae pob un o ysgolion uwchradd Gwynedd wedi derbyn gwahoddiad i enwebu pobl ifanc rhwng 15 a 18 oed i fynychu’r gynhadledd a fydd yn cael ei chynnal yn Siambr Dafydd Orwig ym Mhencadlys Cyngor Gwynedd, Caernarfon. Mae disgwyl i oddeutu 50 o bobl ifanc i ddod ynghyd ar gyfer y gynhadledd i glywed cyflwyniadau gan Gynghorwyr, Aelodau Cynulliad ac Aelodau Seneddol ac i’w herio ar faterion amrywiol.
Wrth drafod y gynhadledd, dywedodd y Cynghorydd Richard Parry Hughes, Arweinydd Cyngor Gwynedd ac Aelod Arweiniol ar faterion Plant a Phobl Ifanc:
“Yn sicr mae gan bobl ifanc ddiddordeb mewn ystod o faterion sy’n effeithio ar eu bywydau a’u cymunedau. Er hynny, dros y blynyddoedd diwethaf, mae mwy a mwy o bobl ifanc wedi penderfynu peidio cymryd rhan mewn prosesau democrataidd traddodiadol ac mae hyn yn amlwg yn y gostyngiad sydd wedi ei weld yn y niferoedd sy’n pleidleisio mewn etholiadau lleol, rhanbarthol a chenedlaethol.
“Mae gennym ddyletswydd fel Cyngor i annog pobl ifanc i gymryd rhan lawn ym mhrosesau democrataidd ac i’w cefnogi i wneud hynny. Rwy’n hyderus y bydd y gynhadledd hon yn gymorth i roi gwybod i bobl ifanc am waith sefydliadau democrataidd allweddol a’u pwysigrwydd yn eu bywydau.”
Yn ystod y gynhadledd, bydd y bobl ifanc hefyd yn cael cyfle i ystyried a thrafod sut mae’r Cyngor, Cynulliad Cenedlaethol Cymru a Senedd San Steffan, yn gallu eu cefnogi er mwyn gwireddu eu hawliau fel pobl ifanc.
Gan drafod hawliau pobl ifanc, dywedodd Iwan Trefor Jones, Cyfarwyddwr Strategol Datblygu a Chyfarwyddwr Arweiniol ar Blant a Phobl Ifanc Cyngor Gwynedd:
“Er nad yw pobl ifanc yn gallu pleidleisio mewn etholiadau tan eu bod yn 18 oed, mae ganddynt yr hawl i fynegi eu barn ar faterion sy’n effeithio arnynt ac i sicrhau fod eu barn yn cael ei glywed.
“Rydym yn gobeithio y bydd pobl ifanc yn fwy ymwybodol o’u hawliau trwy’r gynhadledd, ac y bydd yn gyfle iddynt gyflwyno eu syniadau a’u hawgrymiadau am sut y gall y sefydliadau democrataidd allweddol eu cynorthwyo i wireddu eu hawliau fel pobl ifanc.”