Map o'r wefan  |  Maint testun: A (arferol) | A (canolig) | A (mawr)  |  Cyferbyniad: A (arferol) | A (canolig) | A (uchel)  |  Hygyrchedd  |  Cymorth

Cyngor Gwynedd Council

   
CartrefCysylltu â niGwnewch o ar-leinA-Y o wasanaethauAdrannauMapiauFy NghyfrifEnglish
Rydych chi yma: Cartref > Newyddion > Datganiadau i'r Wasg > Datganiadau 2007 > Hydref
Prif Gategori : Newyddion
Cyfredol : Hydref |
 

Gwaith pwysig i daclo llifogydd yn cael eu cwblhau

Mae Dwr Cymru a Chyngor Gwynedd wedi dathlu cwblhau prosiect o daclo llifogydd gwastraff dwr ym Mhwllheli a fydd o les i fusnesau lleol a`r gymuned ei hun.

Cafodd plac ei ddadorchuddio ar safle Y Mae sym Mhwllheli yn ddiweddar gan y Cynghorydd  R H Wyn Williams, Uwch Arweinydd Portffolio Amgylchedd Cyngor Gwynedd i nodi’r achlysur yma.

Yn ystod y flwyddyn a hanner diwethaf  bu’r cwmni yn gweithio gyda Chyngor Gwynedd  i ddarganfod a gweithredu  ffordd o ddatrys problem y llifogydd sydd wedi effeithio’r ardal yn ystod tywydd stormus.

Roedd y cynllun £1.4 miliwn yma yn gyfrifol am osod pibellau gwastraff dwr newydd yn yr ardal i gynnyddu cynhwyster y rhwydwaith. Bydd hyn yn eu galluogi i ymdopi  â’r gofynion ychwanegol a ddaw yn ystod tywydd gwlyb.

Cafodd gwaith hefyd i’w wneud gan Ddŵr Cymru ar ran y Cyngor i uwchraddio rhwydwaith carthffosiaeth y  ffyrdd o fewn Y Maes.

Ymunodd  Dwr Cymru a Chyngor Gwynedd  fel grŵp gweithredol i daclo’r  llifogydd yn Y Maes. Roedd y grŵp hefyd yn cynnwys cynrychiolwyr o Gyngor Tref Pwllheli ac Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru.

Dywedodd Clara Hughes, Cynrychiolydd Cyfathrebu Dŵr Cymru:

“Yr ydym yn ymroddedig i daclo digwyddiadau fel y llifogydd ar Y Maes ac yn hapus i fod yn rhan o dîm sydd wedi creu cynllun llwyddiannus sydd o les i’r ardal. Hoffwn ddiolch i’r holl breswylwyr a’r busnesau lleol am eu hamynedd tra bod y gwaith yn cael ei gwblhau.”

Ychwanegodd Dewi Rowlands, Cyfarwyddwr Strategol Amgylchedd Cyngor Gwynedd:

“Mae’r ffaith fod nifer o asiantaethau wedi dod at ei gilydd i daclo llifogydd wedi sicrhau ein bod yn gallu creu defnydd o’r sgiliau a’r wybodaeth angenrheidiol er mwyn cyflawni’r gwaith i safon uchel. Rydym yn ymwybodol fod llifogydd wedi effeithio ar yr ardal yma yn y gorffennol, ac rydym yn filch i fod yn rhan o’r cynllun pwysig yma sydd wedi mynd i’r afael â’r mater.”



Methu dod o hyd i'r hyn roeddech yn chwilio amdano? Defnyddiwch yr A-Y neu chwiliwch y wefan
Diweddarwyd: 04/10/2007
 
Telerau ac Amodau|Preifatrwydd a Chwcis|© Hawlfraint Cyngor Gwynedd 2011
Sgipio i [ brig y dudalen ]