Bydd gwobr o £100 i’w rannu rhwng enillwyr mewn dwy gategori, sef plant oed cynradd a phlant oed uwchradd.
Ewch ati i ysgrifennu cerdd ar y thema ‘Breuddwyd’ a’i hanfon yn ôl erbyn 31 Hydref i sylw Gwen Lasarus.
Am ragor o fanylion, neu os ydych yn bwriadu cystadlu, cysylltwch â Gwen Lasarus ar 01286 679465, neu e-bostiwch: gwenlasarus@gwynedd.gov.uk
Cefnogir y gystadleuaeth gan Gynllun Hyrwydo Llenyddiaeth Gwynedd, sef cynllun ar y cyd rhwng yr Academi a Chyngor Gwynedd. Yr Academi yw'r Asiantaeth Genedlaethol er Hyrwyddo Llenyddiaeth a Chymdeithas Llenorion Cymru.