Bydd yr awdur nodedig, Anthony Peake yn trafod ei ddamcaniaethau ar fywyd yn Llyfrgell Bangor ar nos Fercher, 3 Hydref am 7pm.
Bydd yr awdur y llyfr, “Is there life after death? The Extraordinary science of what happens when you die” yn trafod ei ddiddordeb mawr mewn paraseicoleg, ffiseg cwantwm, a natur realaeth. Mae ei lyfr yn archwilio teimladau déjà-vu, profiadau agos i farwolaeth ac anfarwoldeb personol.
Mae tocynnau (£3) ar gael o flaen llaw trwy gysylltu â Llyfrgell Bangor ar 01248 353479, neu wrth y drws ar nos Fercher.
Am ragor o wybodaeth am Anthony Peake, ewch i’r wefan: www.anthonypeake.com
Mae’r awdur ar gael am gyfweliad. Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Nia Gruffydd o Wasanaeth Llyfrgelloedd Cyngor Gwynedd ar 01286 679465.