Y diweddaraf
Bydd coeden pisgwydden yn cael ei thorri yn Nhan y Fynwent ddydd Sul 24 Chwefror. Mynegwyd pryder ynghylch iechyd y goeden y llynedd pan oedd coed eraill yn cael eu torri yn Nhan y Fynwent fel rhan o waith gwella'r ardd. Yn anffodus, wrth gadw golwg yn ystod y deuddeg mis diwethaf, cafwyd cadarnhad fod afiechyd ar y goeden a’i bod yn dirywio. Erbyn hyn, cafwyd caniatâd cynllunio i’w thorri.
Mae’r rhan olaf o’r gwaith o adnewyddu’r toiledau bron â gorffen, sy’n golygu y bydd y maes parcio ger y llyfrgell yn cael ei ail agor yn fuan. Mae’r maes parcio erbyn hyn yn cynnwys rhagor o fannau parcio ar gyfer deiliaid bathodynnau glas ar ôl cael gwared ar rai is-safonol o waelod Stryd Waterloo. Bydd ychydig o fân waith plannu ac ati yn cael ei wneud yn ystod y misoedd nesaf.
Cefndir y prosiect
Mae'r Cyngor wedi llwyddo, mewn partneriaeth, i dderbyn cyllid o Ewrop er mwyn sicrhau adfywiad ffisegol gogledd Cymru. Mae peth o'r cyllid hwn ei glustnodi ar gyfer Strategaeth Mannau Cyhoeddus i wella ac ailfywiogi canol dinas Bangor, yn enwedig ardal y Stryd Fawr a Than-y-Fynwent.
Penodwyd cwmni ymgynghori Taylor Young yn 2009 i baratoi Strategaeth Weithredu. Mae cyfres o weithdai eisoes wedi eu cynnal gyda gwahanol grwpiau allweddol, gan gynnwys mân-werthwyr, grwpiau mynediad ac ysgolion, er mwyn canfod beth sy'n eu poeni nhw, a beth y mae nhw yn teimlo sydd angen ei wella.
Cafodd y sylwadau o'r gweithdai hyn eu defnyddio i greu cynigion drafft ar gyfer y canol y ddinas, ac mae dwy arddangosfa gyhoeddus wedi eu cynnal er mwyn i ni glywed eich barn chi am y cynlluniau.
Mae'r Cynllun Gweithredu sydd wedi'i baratoi gan Taylor Young yn Rhagfyr 2009 yn cynnwys awgrymiadau ar gyfer rhaglen waith i'w gweithredu dros gyfnod o ddeng mlynedd. O ystyried yr hinsawdd ariannol bresennol a'r ansicrwydd a fydd unrhyw gyllid ar gael yn y dyfodol, penderfynwyd y byddai'n rhaid i ni yn ystyried yn ofalus gwmpas y gwaith a'r defnyddiau ar ei gyfer (gan gynnwys defnyddiau wedi'u hailgylchu) i sicrhau y manteisir i'r eithaf ar yr arian sydd ar gael ar hyn o bryd.
Mae Ymgynghoriaeth Gwynedd (y dylunwyr) a Dawnus Construction (y contractwyr) wedi'u penodi i wneud y gwaith seilwaith yn ystod y ddwy flynedd nesaf.
Opsiynau ar gyfer yr Orsaf Fysiau
Yn dilyn cais llwyddiannus i Lywodraeth Cynulliad Cymru, comisiynwyd Astudiaeth Ardal Deithio Gynaliadwy Môn a Menai gan Gyngor Gwynedd ym Medi 2010.
Un brif agweddau'r astudiaeth fu edrych ar y posibilrwydd a'r cyfleoedd i symud yr orsaf bws i leoliad arall yng nghanol dinas Bangor. Edrychai'r gwaith hefyd ar gyfleoedd a allai fod yn sail i welliannau i gyfleusterau'r orsaf bws bresennol gyda phwyslais arbennig ar wella'r amgylchedd i gerddwyr a beicwyr.
Roedd rhan gyntaf astudiaeth Ardal Deithio Gynaliadwy Môn a Menai yn cynnwys ymgynghoriad eang ym Medi 2010, gyda chyfweliadau wyneb yn wyneb gyda mwy na 1200 o unigolion yng nghanol dinas Bangor oedd yn cynrychioli trawstoriad eang o'r cyhoedd.
Ym marn y rhan fwyaf o'r ymatebwyr, lleoliad presennol yr orsaf bws sydd orau o ran darparu mynediad hwylus i siopau, swyddi a chyfleusterau yng nghanol dinas Bangor.
Edrychwch ar yr atodiadau ar waelod y dudalen hon er mwyn weld copïau o gynlluniau a Strategaeth Mannau Cyhoeddus Bangor (Rhagfyr 2009).
Mae'r cynllun wedi ei ariannu yn rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewropeaidd (ERDF) drwy raglen Cydgyfeiriant yr Undeb Ewropeaidd a weinyddir gan Lywodraeth Cynulliad Cymru. Mae'r cyllid wedi bod yn bosib drwy raglen gwerth £38 miliwn Adfywio Gogledd Cymru gan Lywodraeth y Cynulliad mewn perthynas ag awdurdodau lleol a chynllun Ardal Adfywio Môn a Menai.
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Chydlynydd Prosiect Strategaeth Cyhoeddus Bangor ar 01286 679448 neu MannauCyhoeddusBangor@gwynedd.gov.uk