Map o'r wefan  |  Maint testun: A (arferol) | A (canolig) | A (mawr)  |  Cyferbyniad: A (arferol) | A (canolig) | A (uchel)  |  Hygyrchedd  |  Cymorth

Cyngor Gwynedd Council

   
CartrefCysylltu â niGwnewch o ar-leinA-Y o wasanaethauAdrannauMapiauFy NghyfrifEnglish
Rydych chi yma: Cartref > Busnes a'r Economi > Prosiectau Economaidd Sylweddol
 

Academi Hwylio a Chanolfan Ddigwyddiadau Pwllheli

Arddangosfa cyn-cynllunio - dyluniad cysyniad
Arddangosfa cyn-cynllunio - dyluniad cysyniad

Mae pecyn ariannol ar gyfer cynllun arloesol gwerth £8.3 miliwn fydd yn ehangu cyfleon gweithgareddau awyr agored yng Ngwynedd, ac yn hwb enfawr i’r economi leol, wedi cael ei sicrhau.

Mae Cynllun Academi Hwylio Genedlaethol Cymru a Chanolfan Ddigwyddiadau Pwllheli wedi derbyn cefnogaeth ariannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop, Llywodraeth Cymru a Chyngor Gwynedd. Mae hyn yn cynnwys tua £4 miliwn o raglen Cydgyfeiriant yr Undeb Ewropeaidd ac o Gronfa Arian Cyfatebol Targed Llywodraeth Cymru. 

Bydd y cynllun yn datblygu canolfan ym Mhwllheli a fydd yn cynnig darpariaeth ar gyfer cystadlaethau hwylio o’r radd flaenaf, yn datblygu’r ardal i fod yn gyrchfan ar gyfer hwylwyr gorau’r byd, yn agor y drws i hwylwyr newydd, yn cynnig cyfleodd i fwy o bobl ddatblygu sgiliau gweithgareddau awyr agored ac yn adnodd i’r gymuned gyfan. Pan fydd yn agor yn 2013, rhagwelir y bydd yr Academi Hwylio'n denu miloedd o ymwelwyr ychwanegol i’r ardal bob blwyddyn.

Mae Cyngor Gwynedd wedi bod yn gweithio mewn partneriaeth gyda Chlwb Hwylio Pwllheli; Llywodraeth Cymru; Chwaraeon Dŵr Gogledd Cymru; Plas Menai; Coleg Llandrillo (Cymru) a Chymdeithas Hwylio Cymru i ddatblygu’r academi a’r ganolfan weithgareddau.

Bydd y ganolfan newydd hefyd yn lle i gynnal gweithgareddau cymunedol ehangach yn y dref - cyfleuster mae galw mawr amdano ym Mhwllheli.

Mae’r cynllun yn ymateb i’r galw sydd am gyfleusterau o safon uwch ym Mhwllheli ac yn ymateb yn uniongyrchol i’r adroddiad Datblygu Cysyniad a baratowyd gan Marina Projects yn 2008. Dros y misoedd nesaf bydd y Tîm Prosiect, mewn ymgynghoriaeth gyda defnyddwyr a’r gymuned, yn datblygu'r cysyniadau hyn ac yn llunio cynlluniau manwl ar gyfer y Cynllun.

Am fwy o wybodaeth gellir cysylltu â'r Adran Economi a Chymuned, Cyngor Gwynedd, Stryd y Jêl, Caernarfon, Gwynedd, LL55 1SH.

Ffôn: 01286 679513

E-bost: adfywio@gwynedd.gov.uk


Atodiadau

Byrddau Ymgynghori Ionawr 2012pdf (pdf, 3.36Mb)
 
 
Adroddiad: Academi Hwylio Genedlaethol a Chanolfan Digwyddiadaupdf (pdf, 5.59Mb)
 
 
Academi Hwylio Genedlaethol Cymru a Chanolfan Digwyddiadau ym Mhwllhelipdf (pdf, 2.89Mb)
 
 
Datblygiad Cynigion Cysyniad Ar Gyfer Academi Hwylio Genedlaethol Cymru A Chanolfan Ddigwyddiadau ym Mhwllhelipdf (pdf, 102k)
 
 
Academi Hwylio - Newyddion Gwynedd Hydref 2011pdf (pdf, 649k)
 

Ewch i Adobe.com i lawrlwytho'r meddalwedd di-dal Adobe© Reader neu i gael cymorth gyda darllen ffeiliau pdf.


Methu dod o hyd i'r hyn roeddech yn chwilio amdano? Defnyddiwch yr A-Y neu chwiliwch y wefan
Diweddarwyd: 20/03/2012
 
Telerau ac Amodau|Preifatrwydd a Chwcis|© Hawlfraint Cyngor Gwynedd 2011
Sgipio i [ brig y dudalen ]