Mae gan Fae Hirael ym Mangor y potensial i fod yn un o'r lleoliadau glan y dŵr fwyaf cyffrous yng Nghymru.
Mae'r Cyngor yn gweithio gyda Llywodraeth Cynulliad Cymru, Cyngor Dinas Bangor, Watkin Jones, Ystâd y Penrhyn a Phrifysgol Bangor er mwyn datblygu cynllun cyffrous ar gyfer yr ardal.
Er mwyn datblygu'r cynllun, mae'n hanfodol fod trigolion a busnesau lleol yn dod ymlaen ac yn rhannu eu syniadau, ac yn gadael inni wybod beth maent eisiau ei weld yn digwydd yn ardal y bae. Ar hyn o bryd, mae Cyngor Gwynedd yn y broses o ddatblygu opsiynau ar gyfer y safle yn dilyn ymgynghori ar y syniadau cychwynnol.
Er mwyn darllen yr Adroddiad Prif Gynllun Terfynol a gyhoeddwyd ym mis Chwefror 2009, cliciwch ar yr atodiad ar waelod y dudalen hon.
Mae newyddlenni a phaneli gwybodaeth sydd wedi eu cyhoeddi yn ystod y broses hefyd wedi eu hatodi ar waelod y dudalen hon.
Am ragor o wybodaeth am y cynllun cysylltwch â Gwasanaeth Economi ac Adfywio Cyngor Gwynedd ar 01766 771000.