Map o'r wefan  |  Maint testun: A (arferol) | A (canolig) | A (mawr)  |  Cyferbyniad: A (arferol) | A (canolig) | A (uchel)  |  Hygyrchedd  |  Cymorth

Cyngor Gwynedd Council

   
CartrefCysylltu â niGwnewch o ar-leinA-Y o wasanaethauAdrannauMapiauFy NghyfrifEnglish
Rydych chi yma: Cartref > Newyddion > Datganiadau i'r Wasg > Datganiadau 2007 > Medi
Prif Gategori : Newyddion
Cyfredol : Medi |
 

Cyfle i ddweud diolch wrth ofalwyr maeth Gwynedd

Diwrnod o hwyl ym Mharc Glynllifon
Diwrnod o hwyl ym Mharc Glynllifon

Mae 127 o blant yn derbyn gofal maeth yng Ngwynedd ar hyn o bryd, gyda 64 o deuluoedd wedi cofrestru gyda Gwasanaeth Maethu Cyngor Gwynedd ac yn cynnig cartref i blant sydd angen gofal.

Cafwyd diwrnod arbennig i ddathlu a diolch am waith caled ofalwyr maeth Gwynedd ym Mharc Glynllifon, ger Caernarfon yn ddiweddar. Bu’r diwrnod yn gyfle gwych i ofalwyr, eu plant a phlant maeth Gwynedd ddod ynghyd i fwynhau.

Dywedodd y Cynghorydd John Wyn Williams, Uwch Arweinydd Portffolio materion Gofal Cyngor Gwynedd:

"Mae gofalwyr maeth Gwynedd yn gwneud gwaith allweddol bwysig gan gynorthwyo plant i ffynnu drwy roi’r cyfleoedd gorau iddynt mewn bywyd.

"Mae’n bwysig fod gofalwyr a phlant maeth yn cael cyfle fel hyn i ddod ynghyd i fwynhau a rhannu profiadau. Rydym wastad yn awyddus i glywed gan unrhyw un sy’n awyddus i fod yn ofalwr maeth, a byddem yn annog unrhyw un sydd â diddordeb i gysylltu gyda Thîm Maethu’r Cyngor i drafod."

Cafwyd diwrnod llwyddiannus iawn ym Mharc Glynllifon, gyda pawb wedi mwynhau y bwyd a’r adloniant a ddarparwyd. Cafodd pawb y cyfle i wledda ar y Mochyn Rhost a ddarparwyd yn yr awyr agored gan wrando ar fand lleol ‘Dangerous Age’ yn perfformio’n fyw.

Ychwanegodd Aled Gibbard, Rheolwr Gwasanaeth Adnoddau Gofal, Cyngor Gwynedd:

"Bu’r diwrnod yma yn gyfle arbennig i holl ofalwyr Gwynedd, a phawb sy’n y broses o gael eu hasesu ar gyfer maethu, ddod ynghyd i ymlacio a mwynhau’r amrywiol weithgareddau oedd ar gael.

"Rydym yn hynod falch ac yn ddiolchgar i ofalwyr maeth Gwynedd am y gwasanaeth maent yn ei gynnig i blant y sir, ac roedd y digwyddiad yma yn ffordd i ni ddangos ein gwerthfawrogiad o`r ymroddiad y maent yn ei ddangos tuag at blant a phobl ifanc drwy gydol y flwyddyn."

Os oes gennych chi ddiddordeb bod yn ofalwr maeth, cysylltwch â Gwasanaeth Maethu Cyngor Gwynedd ar 0870 44 45 451, neu e-bostiwch: maethu@gwynedd.gov.uk

 



Methu dod o hyd i'r hyn roeddech yn chwilio amdano? Defnyddiwch yr A-Y neu chwiliwch y wefan
Diweddarwyd: 28/09/2007
 
Telerau ac Amodau|Preifatrwydd a Chwcis|© Hawlfraint Cyngor Gwynedd 2011
Sgipio i [ brig y dudalen ]