Map o'r wefan  |  Maint testun: A (arferol) | A (canolig) | A (mawr)  |  Cyferbyniad: A (arferol) | A (canolig) | A (uchel)  |  Hygyrchedd  |  Cymorth

Cyngor Gwynedd Council

   
CartrefCysylltu â niGwnewch o ar-leinA-Y o wasanaethauAdrannauMapiauFy NghyfrifEnglish
Rydych chi yma: Cartref > Newyddion > Datganiadau i'r Wasg > Datganiadau 2007 > Medi
Prif Gategori : Newyddion
Cyfredol : Medi |
 

Sicrhau dyfodol disglair i Wynedd

Mae sicrhau cynaliadwyedd ein cymunedau gwledig ac annog mentergarwch ymhlith ein trigolion yn allweddol i ddyfodol Gwynedd. Dyna brif neges Strategaeth Datblygu Gwledig y Sir, sydd wedi derbyn cymeradwyaeth cychwynnol gan Lywodraeth y Cynulliad.

Mae Cyngor Gwynedd bellach yn bwrw ymlaen i gyflwyno cynllun busnes manwl a fydd yn crynhoi gweledigaeth y Cyngor ar ddyfodol y sir. Bydd Rhaglen Datblygu Gwledig 2007-2013 yn un o’r prif rhaglenni Ewropeaidd fydd ar waith yng Nghymru yn ystod y blynyddoedd nesaf, gyda hyd at 109 Miliwn Ewro ar gyfer prosiectau Axis 3 a 45 miliwn Ewro ar gyfer prosiectau Axis 4 ar gael i geisiadau ledled Cymru dros y chwe blynedd nesaf.

Amcan strategaeth Gwynedd yw cynyddu hyfywdra a chynaladwyedd cymunedau gwledig y sir trwy arallgyfeirio'r economi lleol wrth annog mentergarwch, cynyddu ansawdd a gwerth lleol a gwneud yn siwr bod Gwynedd yn gwneud y mwyaf o'u hasedau diwylliannol a naturiol.

Dywedodd y Cynghorydd Dafydd Iwan, sy’n arwain ar Ddatblygu ar Gyngor Gwynedd:

“Mae’n gwbl allweddol ein bod fel Cyngor yn parhau i wneud yn siwr fod Gwynedd yn barod ar gyfer yr heriau fydd yn ein hwynebu yn y dyfodol. Rydym yn benderfynol o ddarparu’r sgiliau angenrheidiol sydd eu hangen fel y gall ein pobl ifanc lwyddo’n lleol, a chyfrannu at economi leol iach.

“Trwy gynllunio gofalus gallwn ddatblygu cynlluniau cyffrous a mentrus a fydd yn sicrhau fod Gwynedd yn gwneud y mwyaf o’i hasedau diwylliannol a naturiol i greu cyfoeth a ffyniant ar draws y sir. Mae’n hollbwysig ein bod yn annog ac yn cefnogi ein talent leol ac yn cefnogi gwaith pwysig sydd eisoes yn cael ei gyflawni gan fusnesau ar hyd a lled Gwynedd. Trwy adeiladu ar y llwyddiant yma gallwn weithio i sicrhau dyfodol disglair i Wynedd.”

Mae cam cyntaf y strategaeth, sydd eisoes wedi derbyn cefnogaeth gychwynnol gan y Cynulliad, yn tanlinellu’r angen i gynnal a diogelu ein hamgylchedd a'n treftadaeth wledig i’r dyfodol, yn ogystal â gwella gallu ein cymunedau gwledig i gystadlu ar lefel economaidd.

Ychwanegodd Sioned Williams, Pennaeth Gwasanaeth Economi ac Adfywio Cyngor Gwynedd:

“Yn ystod y misoedd nesaf, byddwn yn gweithio’n galed i adnabod amrywiaeth o brosiectau y byddem am eu gweld yn cael eu cefnogi gan y Cynllun Datblygu Gwledig. Mae gwaith pwysig eisoes wedi ei gyflawni, a byddwn yn parhau i gydweithio’n agos gyda nifer o bartneriaid yn lleol ac ar draws Cymru er mwyn sicrhau y gallwn ymfalchïo mewn economi wledig amrywiol sy’n galluogi pobl o bob oed i fyw, gweithio a llwyddo’n lleol yma yng Ngwynedd.”

 



Methu dod o hyd i'r hyn roeddech yn chwilio amdano? Defnyddiwch yr A-Y neu chwiliwch y wefan
Diweddarwyd: 24/09/2007
 
Telerau ac Amodau|Preifatrwydd a Chwcis|© Hawlfraint Cyngor Gwynedd 2011
Sgipio i [ brig y dudalen ]