Map o'r wefan  |  Maint testun: A (arferol) | A (canolig) | A (mawr)  |  Cyferbyniad: A (arferol) | A (canolig) | A (uchel)  |  Hygyrchedd  |  Cymorth

Cyngor Gwynedd Council

   
CartrefCysylltu â niGwnewch o ar-leinA-Y o wasanaethauAdrannauMapiauFy NghyfrifEnglish
Rydych chi yma: Cartref > Newyddion > Datganiadau i'r Wasg > Datganiadau 2007 > Medi
Prif Gategori : Newyddion
Cyfredol : Medi |
 

Gwaith i gychwyn ar welliannau gwerth £2.4m ar y Maes

Yn ystod yr wythnosau nesaf bydd gwaith yn cychwyn ar gynllun sylweddol i wella’r Maes yng nghanol tref Caernarfon. Y cynllun hwn yw’r diweddaraf mewn cyfres o fentrau i ddarparu amgylchedd o ansawdd i Gaernarfon a’r ardal o amgylch.

Yn dilyn proses dendro ffurfiol, mae Cyngor Gwynedd wedi dyfarnu’r contract i gwmni Mulcair Civil Engineering Ltd sydd wedi eu lleoli ar Ystad Ddiwydiannol Cibyn yng Nghaernarfon, a disgwylir i’r gwaith gychwyn ar y cynllun arloesol yn ystod yr wythnosau i ddod.  

Bydd y fenter yn dod â gwelliannau amgylcheddol allweddol.  Mae’r rhain yn cynnwys:

· creu gofod agored amlbwrpas o safon i’r cyhoedd fydd yn gallu cael ei ddefnyddio ar gyfer gwahanol ddibenion
· cyflwyno mesurau rheoli traffig newydd er mwyn creu ardal ddiogel i gerddwyr a fydd yn denu pobl a busnesau i ganol Caernarfon
· gwelliannau i reolaeth traffig ar Ffordd Bangor, Stryd y Bont Bridd, Penllyn ac Allt y Castell.

Dywedodd y Cynghorydd Dafydd Iwan, sy’n arwain ar Ddatblygu ar Gyngor Gwynedd:

“Mae hwn yn gyfnod cyffrous iawn i Gaernarfon.  Bydd y datblygiad pwysig hwn yn creu cyswllt cryf rhwng sawl rhan strategol o’r dref, gan gynnwys yr ardal o fewn waliau’r dref, yr hen gei llechi diwydiannol, y brif ardal fasnachu a’r datblygiadau yn Noc Fictoria. 

“Rydym yn hyderus y bydd y cynllun yn gwella’r amgylchedd ar gyfer busnesau yng nghanol y dref yn sylweddol ac yn cynorthwyo i sbarduno economi’r dref drwy gydol y dydd ac ymlaen i fin nos.”   

Ychwanegodd Sioned Williams, Pennaeth Gwasanaeth Economi ac Adfywio Cyngor Gwynedd:

“Bydd y cynllun gwelliannau sylweddol hwn yn cadarnhau statws y Maes yng nghanol y dref ac yn gwella’r profiad o ymweld â chanol y dref yn fawr i siopwyr ac ymwelwyr.  

“Rydym yn hyderus y bydd y datblygiad yn dod â buddiannau clir i siopau a busnesau’r dref.  Tra rydym yn gwerthfawrogi y gall y gwaith adeiladu achosi peth anghyfleustra, byddwn yn gweithio’n galed i sicrhau na fydd hyn yn effeithio ar fusnesau lleol.  

“Mae’r ffaith mai cwmni sydd wedi ei leoli yng Nghaernarfon sy’n ymgymryd â’r gwaith hefyd yn hwb pellach i’r economi.  Mae’n galonogol gweld cwmnïau lleol yn dangos eu hawydd i gystadlu am, ac ennill contractau mawr.”

Dywedodd Gwyn Jones o gwmni Mulcair:

“Rydym yn hynod o falch o fod wedi derbyn y contract hwn ac yn edrych ymlaen i weithredu’r cynllun allweddol hwn yng nghanol y dref. Rydym yn edrych ymlaen i weithio gyda’r Cyngor a busnesau yn y dref yn ystod cyfnod y contract.

“Rydym yn gwerthfawrogi fod datblygiad y Maes yn gynllun adfywio sylweddol a fydd yn gwella’r amgylchedd hanesyddol.  Mae pob ymdrech wedi ei wneud i ymgorffori deunyddiau o’r safon uchaf i’r fenter, a drwy ddefnyddio cyflenwyr lleol, byddwn yn ymdrechu i ddefnyddio llechen a gwenithfaen sydd wedi eu mwyngloddio yng Wynedd lle bynnag fo hynny’n bosib.”



Methu dod o hyd i'r hyn roeddech yn chwilio amdano? Defnyddiwch yr A-Y neu chwiliwch y wefan
Diweddarwyd: 19/09/2007
 
Telerau ac Amodau|Preifatrwydd a Chwcis|© Hawlfraint Cyngor Gwynedd 2011
Sgipio i [ brig y dudalen ]