Map o'r wefan  |  Maint testun: A (arferol) | A (canolig) | A (mawr)  |  Cyferbyniad: A (arferol) | A (canolig) | A (uchel)  |  Hygyrchedd  |  Cymorth

Cyngor Gwynedd Council

   
CartrefCysylltu â niGwnewch o ar-leinA-Y o wasanaethauAdrannauMapiauFy NghyfrifEnglish
Rydych chi yma: Cartref > Newyddion > Datganiadau i'r Wasg > Datganiadau 2007 > Medi
Prif Gategori : Newyddion
Cyfredol : Medi |
 

Cyngor Gwynedd yn lansio menter Cerdded Nordig

Emma Quake a Ceinwen Stokes yn ymarfer Cerdded Nordig
Emma Quake a Ceinwen Stokes yn ymarfer Cerdded Nordig

Cyngor Gwynedd ydi’r sefydliad diweddaraf i gynnwys cerdded Nordig yn eu mentrau hybu iechyd er mwyn annog pobl i wneud y 30 munud o weithgaredd corfforol 5 gwaith yr wythnos fel a argymhellir.

Mae cerdded Nordig yn weithgaredd awyr agored cyffrous sy’n ymarfer corff gwych ble mae’r rhai sy’n cymryd rhan yn cerdded gan ddefnyddio polion sy’n golygu ei fod yn ymarfer ar gyfer y corff cyfan. Tra bod cerdded yn eithaf cyflym yn dod â buddiannau iechyd gwych, mae ymchwil wedi dangos fod manteision sylweddol drwy ymarfer yn y dull Nordig.

Mae ymarfer corff rheolaidd yn dod â buddiannau iechyd gwych ac yn helpu i reoli pwysau gwaed, gordewdra, iselder a straen, ond mae buddiannau iechyd penodol hefyd yn gysylltiedig â cherdded Nordig. Drwy gerdded a defnyddio’r polion, mae’r tensiwn i mewn ac o amgylch y gwddf yn cael ei leihau, ac o ganlyniad yn lleihau poen cefn ac yn cynyddu symudedd yr asgwrn cefn.

Eglurodd Emma Quaeck, Cydlynydd Adfeiriad Cardiaidd ac Ymarfer Cyngor Gwynedd:

"Ac eithrio nofio, cerdded Nordig yw un o’r dulliau gorau o ymarfer corff i leihau’r tensiwn sy’n cael ei roi ar y pen glin a chymalau. Drwy ddefnyddio’r polion, mae’r breichiau yn rhyddhau’r straen ar y pen gliniau a’r cluniau. Felly, mae’n ymarfer buddiol dros ben ar gyfer rhai sy’n dioddef o gryd y cymalau a phobl sy’n ordew, ac yn bwysig dros ben ar gyfer adferiad iechyd."

"Rydym yn bwriadu hyfforddi a chefnogi Arweinwyr Cerdded Nordig gwirfoddol i weithio gyda chymunedau lleol i ddatblygu grwpiau cerdded. Mae’r math hwn o gerdded yn addas ar gyfer unigolion o bob gallu a gall fod yn llawer iawn i hwyl wrth fwynhau'r harddwch naturiol o’u cwmpas," ychwanegodd.

Am wybodaeth bellach neu os oes gennych ddiddordeb bod yn Hyfforddwr Cerdded Nordig, cysylltwch ag Emma Quaeck ar 07768 988 095

Cefnogir y fenter gan Nordic Walking UK a grant gan Gyngor Chwaraeon Cymru fel rhan o’r strategaeth Let’s Walk Cymru.

Mae cerdded Nordig yn ymarfer corff ar gyfer y corff i gyd sy’n defnyddio 90% o gyhyrau’r corff, ac yn nhermau calorïau, yn llosgi 20% yn fwy nag ymarfer arall ar yr un lefel o ymdrech.



Methu dod o hyd i'r hyn roeddech yn chwilio amdano? Defnyddiwch yr A-Y neu chwiliwch y wefan
Diweddarwyd: 18/09/2007
 
Telerau ac Amodau|Preifatrwydd a Chwcis|© Hawlfraint Cyngor Gwynedd 2011
Sgipio i [ brig y dudalen ]