Dros y misoedd diwethaf, mae Partneriaeth Tai Dyffryn Nantlle, sy’n cynnwys Cyngor Cymuned Llanllyfni, Cyngor Gwynedd, Ymddiriedolaeth Tir Cymunedol Dyffryn Nantlle, a Chymdeithas Tai Eryri, wedi trefnu arolwg arbennig er mwyn ceisio darganfod beth yn union yw natur yr angen lleol am dai marchnad agored a thai fforddiadwy.
Derbyniwyd dros 135 o ymatebion gan bobl yn cadarnhau eu bod angen symud tŷ o fewn y 5 mlynedd nesaf. O’r rhain nododd 73% nad oeddent yn gallu fforddio tai ar y farchnad agored, gyda dros 30 o ymatebwyr yn cadarnhau fod ganddynt ddiddordeb mewn cael tŷ ar safle Bryn Rhedyw, Llanllyfni pe fyddai datblygiad tai yn cymryd lle yno.
Ar sail y dystiolaeth a gasglwyd, mae ystyriaeth yn cael ei roi i dir Cyngor Gwynedd ym Mryn Rhedyw Llanllyfni fel un posib mewn egwyddor i’w ddatblygu ar gyfer darparu tai fforddiadwy angen lleol. Dros y misoedd diwethaf mae Cymdeithas Dai lleol wedi comisiynu gwaith i asesu addasrwydd y safle ac wedi llunio dyluniadau ar gyfer adeiladu tai fforddiadwy yno.
Er nad oes cais cynllunio wedi ei gyflwyno ar gyfer y datblygiad arfaethedig, bydd noson agored yn cael ei drefnu ar y cyd gan y Cyngor Cymuned, Cyngor Gwynedd a Chymdeithas Tai Eryri yn Neuadd Gymunedol Llanllyfni ar nos Iau, 27 Medi rhwng 4.30pm a 7.30pm. Bydd cyfle i unrhyw un sydd â diddordeb i weld dyluniadau ar gyfer y tai ar y safle dan sylw ac i unrhyw un sydd heb gofrestru eu diddordeb yn y tai fforddiadwy arfaethedig i wneud hynny.
“Pwrpas y noson agored yn Llanllyfni fydd i roi cyfle i’r gymuned leol gael gweld y dyluniadau ar gyfer safle Cyngor Gwynedd ym Mryn Rhedyw a hefyd i holi swyddogion Cyngor Gwynedd a Chymdeithas Tai Eryri ar unrhyw agweddau o’r cynllun dan sylw,” meddai Aled Evans, Swyddog Tai Fforddiadwy Cyngor Gwynedd.
“Bydd y noson hefyd yn rhoi cyfle i unrhyw un sydd heb gwblhau ffurflen arolwg anghenion tai yn ddiweddar ond sydd eisiau cofrestru ei ddiddordeb yn y tai dan sylw i wneud hynny. Bydd yr holl unedau ar y safle yn gorfod cydymffurfio gyda chanllawiau Tai Fforddiadwy Cyngor Gwynedd ac felly yn rhoi blaenoriaeth i bobl leol mewn gwir angen tai fforddiadwy.”
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch ag Aled Evans, Swyddog Tai Fforddiadwy Cyngor Gwynedd ar 01286 679498, neu e-bostiwch: taifforddiadwy@gwynedd.gov.uk