Map o'r wefan  |  Maint testun: A (arferol) | A (canolig) | A (mawr)  |  Cyferbyniad: A (arferol) | A (canolig) | A (uchel)  |  Hygyrchedd  |  Cymorth

Cyngor Gwynedd Council

   
CartrefCysylltu â niGwnewch o ar-leinA-Y o wasanaethauAdrannauMapiauFy NghyfrifEnglish
Rydych chi yma: Cartref > Newyddion > Datganiadau i'r Wasg > Datganiadau 2007 > Medi
Prif Gategori : Newyddion
Cyfredol : Medi |
 

Gwynedd yn edrych i’r dyfodol

Tîm Gwynedd Yfory a dderbyniodd statws “Rhagoriaeth Cymru”
Tîm Gwynedd Yfory a dderbyniodd statws “Rhagoriaeth Cymru”

Pam ei bod hi mor bwysig i gynllunio ar gyfer y dyfodol? Dyma’n union fydd yn cael ei drafod mewn digwyddiad arbennig sy’n cael ei chynnal gan Wynedd ar 11 Hydref.

Mae’r gwaith blaengar a ymgymerwyd fel rhan o gynllun Gwynedd ar y Cyd – partneriaeth strategol o asiantaethau allweddol ar draws y sir – eisoes wedi ei gydnabod am iddo dderbyn statws “Rhagoriaeth Cymru” mewn seremoni arbennig yng Nghaerdydd yn gynharach eleni.

Bydd swyddogion allweddol prosiect “Gwynedd Yfory” yn rhannu eu proifiadau mewn diwrnod agored arbennig a gynhelir ddydd Iau, 11 Hydref yng Nghanolfan Technoleg Meddalwedd Datblygedig (CAST), Parc Menai, Bangor, o 10am hyd 3pm.

Nod y diwrnod agored yw rhoi cyfle i swyddogion polisi a chydlynwyr strategaethau cymunedol ar draws Cymru i ddod ynghyd i ddysgu mwy am y broses a ddefnyddiwyd i gasglu gwybodaeth am y ffactorau hir dymor sydd am ddylanwadu ar ddyfodol ein Sir a sut gynhyrchwyd gweledigaeth i greu Gwynedd mwy ffyniannus, chydlynol a fwy cynaliadwy

Dywedodd y Cynghorydd Richard Parry Hughes, Cadeirydd Bwrdd Llywio Gwynedd ar y Cyd:

“Ymgymerwyd â gwaith allweddol fel rhan o brosiect ‘Gwynedd Yfory’ er mwyn ystyried sut allai Gwynedd edrych yn 2021, ac i osod cyfeiriad clir ar gyfer y ffordd y bydd ein gwasanaethau yn cael eu cynllunio a’u gwireddu ar gyfer trigolion y sir.

“Llwyddodd y prosiect i ddod â’r holl bartneriaid allweddol at ei gilydd i gytuno ar weledigaeth strategol gytun. Bydd y diwrnod agored yma yn gyfle arbennig i rannu profiadau gyda siroedd eraill ledled Cymru er mwyn sicrhau ein bod yn ystyried y ffactorau tymor hir allai ddylanwadu ar ddyfodol ein hardaloedd unigol.”

Ychwanegodd Natalie Jones, Rheolwr Ymchwil a Gwybodaeth Cyngor Gwynedd:

“Bwriad y gweithdy agored yw rhannu profiadau gyda chyd-weithwyr ym maes polisi, a thanlinellu’r rhesymeg dros gael cynllun o’r fath, a disgrifio’n fanwl y broses o greu gweledigaeth hir dymor ar gyfer Gwynedd.

“Bydd cyfle hefyd i ymarfer cynllunio scenario, gyda digon o weithgareddau ymarferol a fydd yn fan cychwyn da er mwyn defnyddio’r technegau mewn siroedd ledled Cymru.”

Mae’r digwyddiad yn rhad ac am ddim, ond mae yna gyfyngder ar y nifer o lefydd sydd ar gael i fynychu’r digwyddiad. Dylai unrhyw un sy’n awyddus i fynychu’r digwyddiad e-bostio:ellenwilliams2@gwynedd.gov.uk er mwyn archebu lle.

Am fwy o wybodaeth am y digwyddiad ei hun, cysylltwch gyda Natalie Jones, Rheolwr Ymchwil a Gwybodaeth Cyngor Gwynedd ar 01286 679380 neu e-bostiwch: nataliejones@gwynedd.gov.uk

 



Methu dod o hyd i'r hyn roeddech yn chwilio amdano? Defnyddiwch yr A-Y neu chwiliwch y wefan
Diweddarwyd: 17/09/2007
 
Telerau ac Amodau|Preifatrwydd a Chwcis|© Hawlfraint Cyngor Gwynedd 2011
Sgipio i [ brig y dudalen ]