Map o'r wefan  |  Maint testun: A (arferol) | A (canolig) | A (mawr)  |  Cyferbyniad: A (arferol) | A (canolig) | A (uchel)  |  Hygyrchedd  |  Cymorth

Cyngor Gwynedd Council

   
CartrefCysylltu â niGwnewch o ar-leinA-Y o wasanaethauAdrannauMapiauFy NghyfrifEnglish
Rydych chi yma: Cartref > Newyddion > Datganiadau i'r Wasg > Datganiadau 2007 > Medi
Prif Gategori : Newyddion
Cyfredol : Medi |
 

Prysurdeb Mawr ym Mharc Glynllifon

Bydd Parc Glynllifon, ger Caernarfon yn fwrlwm o weithgareddau dros y penwythnos.

Ar brynhawn Sul, 16 Medi bydd arddangosfa o hen geir a thractorau i’w gweld yn y parc, gyda’r injan stem hynaf ym Mhrydain a adferwyd gan yr enwog Fred Dibnah yn rhedeg drwy’r dydd.

Bydd adloniant yno hefyd gyda Lleisiau Mignedd, Dawnswyr Môn a’r grwp lleol, Dangerous Age yn diddanu, gyda syrcas arbennig ar gyfer plant yn cynnwys gweithdai a pherfformiadau arbennig. Mae’r gweithgareddau yn cychwyn am hanner dydd, ac ymlaen hyd at 5pm

Hefyd, bydd gwaith arbennig hyd at 30 troedfedd gan y cerflunydd Peter Boyd i’w gweld yng ardd hanesyddol Parc Glynllifon. Mae’r cerflunydd ar hyn o bryd ar ganol gweithio ar gerflun Cilmyn Troed ddu. Bydd cyfle i’r cyhoedd weld Peter wrth ei waith ar ddydd Sul ac i ddod i olrhain hanes Cilmyn, y gwr cyntaf i adeiladu ty ar lan Afon Llifon ymhell dros mil o flynyddoedd yn ol.

Dywedodd Gwynedd Roberts, Rheolwr Parc Glynllifon:

“Mae hwn yn gerflun unigryw iawn ac yn cyfoethogi’r casgliad o gerfluniau sydd eisoes yn bodoli yma yng Nglynllifon. Bydd y diwrnod yma yn gyfle arbennig i ymwelwyr â’r parc ddod i weld beth sydd gan Barc Glynllifon i’w gynnig, ac i fwynhau’r cyfoeth o arlwy sydd ar gael.”

Bydd arddangosfa arbennig yn agor ar ddydd Sul, 23 Medi yn oriel Parc Glynllifon. Arddangosfa o baentiadau gan Phil Stanton fydd hon, ac fe fydd y Cynghorydd Dyfed Edwards yn agor yr arddangosfa yn swyddogol am 1pm. Bydd yr arddangosfa yn rhedeg hyd 26 Hydref.

Am fwy o wybodaeth am y digwyddiadau, cysylltwch a Gwynedd Roberts, Parc Glynllifon ar 01286 830 222.

 



Methu dod o hyd i'r hyn roeddech yn chwilio amdano? Defnyddiwch yr A-Y neu chwiliwch y wefan
Diweddarwyd: 12/09/2007
 
Telerau ac Amodau|Preifatrwydd a Chwcis|© Hawlfraint Cyngor Gwynedd 2011
Sgipio i [ brig y dudalen ]