Cafodd 1,395 o blant eu hanafu ar y ffordd yng Nghymru yn 2005, gyda 135 o blant wedi eu llad neu eu hanafu’n ddifrifol. O’r niferoedd yma, roedd 36% o’r plant a anafwyd yn gerddwyr, 12% yn feicwyr, tra roedd 52% yn teithio mewn cerbyd ar y pryd. Mae’r ystadegau brawychus yma yn tanlinellu’r angen i hybu diogelwch y ffyrdd mewn cerbydau ymhlith plant a phobl ifanc.
Bydd profion arbennig yn cael eu cynnal yng Ngorsaf Dân Caernarfon ddydd Iau, 13 Medi hyd ddydd Sadwrn, 15 Medi. Mae croeso i rieni ddod draw i brofi unrhyw fath o seddi ceir plant.
Dywedodd Heather Lynne Jones, Swyddog Diogelwch y Ffordd Cyngor Gwynedd:
“Pan mae seddi ceir yn cael eu defnyddio yn gywir, maent yn gallu gwella diogelwch plant pan maent yn teithio. Ond yn anffodus, mae oddeutu 80% o seddi yn cael eu gosod, yn ddiarwybod i rieni, yn anghywir, gan roi plant mewn perygl.
“Rydym yn gobeithio y bydd y profion yma yn ffordd i sicrhau fod mwy o seddi plant yn cael eu gosod yn gywir, a’u bod mewn cyflwr da. Rwy’n annog unrhyw riant sydd â diddordeb i ddod draw i Orsaf Dân Caernarfon yr wythnos yma i gael profi seddi diogelwch eu ceir.”
Bydd profion arbennig yn cael eu cynnal yn rhad ac am ddim gan swyddogion Cyngor Gwynedd a Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn ogystal â Fran Vickery, arrbenigwraig ym maes seddi ceir plant, yn cael eu cynnal yng Ngorsaf Dân Caernarfon ddydd Iau, 13 Medi o hanner dydd hyd 5pm; ac ar ddydd Gwener a Sadwrn, 14 a 15 Medi o 10am hyd 1pm, ac yna o 2pm hyd 5pm. Bydd croeso cynnes i rieni ddod draw i brofi seddi ceir gyda’r arbenigwyr.