Map o'r wefan  |  Maint testun: A (arferol) | A (canolig) | A (mawr)  |  Cyferbyniad: A (arferol) | A (canolig) | A (uchel)  |  Hygyrchedd  |  Cymorth

Cyngor Gwynedd Council

   
CartrefCysylltu â niGwnewch o ar-leinA-Y o wasanaethauAdrannauMapiauFy NghyfrifEnglish
Rydych chi yma: Cartref > Newyddion > Datganiadau i'r Wasg > Datganiadau 2007 > Medi
Prif Gategori : Newyddion
Cyfredol : Medi |
 

Canllawiau Dodrefn Stryd ar gyfer Busnesau Gwynedd

Dodrefn Stryd
Dodrefn Stryd

Mae busnesau lleol yn cael eu hannog i ddarllen ac ystyried y cyngor yn y daflen newydd sydd yn cynnwys gwybodaeth a chyngor am ddiogelwch, a defnydd cyfreithiol o ddodrefn stryd ac arwyddion hyrwyddo.

Mae’r daflen – sy’n ffrwyth llafur gwaith ar y cyd rhwng Cyngor Gwynedd a Grŵp Mynediad i’r Anabl lleol – hefyd yn helpu i sicrhau nad ydy dodrefn stryd yn achosi anhwylustod na pherygl i bobl anabl, cerddwyr nac unrhyw un arall sy’n defnyddio’r droedffordd.

O fis Medi ymlaen, bydd swyddogion Cyngor Gwynedd hefyd gyda’r cyfrifoldeb i sicrhau nad yw rhwystrau ar ffyrdd cyhoeddus, megis byrddau hysbysebu mawr, yn amharu ar gerddwyr na defnyddwyr y ffordd.

Dywedodd y Cynghorydd R H Wyn Williams, sy’n arwain ar yr Amgylchedd ar Gyngor Gwynedd:

"Gall byrddau hysbysebu anawdurdodedig a chadeiriau wedi eu gosod ar y llwybrau troed achosi anhwylustod sylweddol neu berygl i aelodau o’r cyhoedd.

"Fel Awdurdod Priffyrdd, mae gan Cyngor Gwynedd ddyletswydd gyfreithiol i warchod hawliau’r cyhoedd a mwynhau mynediad heb rwystr i’r briffordd gyhoeddus. Fodd bynnag, rydym yn sylweddoli’r pwysigrwydd o daro cydbwysedd synhwyrol rhwng gwarchod cerddwyr a defnyddwyr y ffordd a chefnogi busnesau lleol. Dylid cofio na fydd y newidiadau hyn yn effeithio ar dai bwyta ar y palmant sydd wedi eu hawdurdodi.

"Gall defnydd diogel a chyfreithiol o ddodrefn stryd ychwanegu at brofiad cerddwyr tra ar yr un pryd, helpu busnesau lleol i lwyddo. Er mwyn cyrraedd y nod hwn, rwy’n erfyn ar gymuned fusnes Gwynedd i ddarllen y daflen hon ac i gysylltu gyda’r Cyngor er mwyn trafod unrhyw bryderon sydd ganddynt."

Dafydd Wyn Williams, Prif Beiriannydd Trafnidiaeth a Gofal Stryd Cyngor Gwynedd:

"Yn ystod y misoedd diwethaf, rydym wedi ymweld â nifer o ardaloedd ac wedi trafod y mater gyda busnesau ar hyd a lled y sir.

"Mae Cyngor Gwynedd yn cydnabod pwysigrwydd cefnogi ein busnesau lleol. Oherwydd hyn, byddwn yn cymryd agwedd resymol tuag at rwystrau heb eu hawdurdodi ac yn asesu pob achos ar sail unigol."

Mae’r daflen diogelwch stryd yn cael ei dosbarthu o amgylch busnesau’r sir ar hyn o bryd. Am gopi o’r daflen, cysylltwch ag Uned Trafnidiaeth a Gofal Stryd Cyngor Gwynedd ar (01286 679521).



Methu dod o hyd i'r hyn roeddech yn chwilio amdano? Defnyddiwch yr A-Y neu chwiliwch y wefan
Diweddarwyd: 10/09/2007
 
Telerau ac Amodau|Preifatrwydd a Chwcis|© Hawlfraint Cyngor Gwynedd 2011
Sgipio i [ brig y dudalen ]