Ar 29 Medi am 2pm agorir yr Wyl gyda sgwrs ysgafn am ei daith i Wlad Belg gan Isgoed Williams yn Neuadd Bentref Trawsfynydd a bydd te a theisen i ddilyn. Am 3:30pm cawn sgwrs a thaith gerdded fer yng Nghwmni Keith O’Brien o gwmpas Eglwys Sant Madryn, Trawsfynydd yn olrhain hanes rhai o lenorion yr ardal.
Gyda’r nôs yn Nhfaran y Cross bydd STOMP am 8pm,yng ngofal y Stompfeistr Twm Morys a’r beirdd Dewi Prysor, Pod, Em Gom, Karen Owen ac eraill yn ymrafael am stôl go arbennig. Bydd band yn diddanu ar ôl y Stomp.
Ar Ddydd Sul, 30 Medi o 2pm hyd 4pm bydd taith yn y cwch Prysorwen ar Lyn Trawsfynydd o Lanfa Hendre Mur. Byddwn yn teithio yng nghwmni’r bardd Dewi Prysor a’r Prifeirdd Elwyn Edwards ac Iwan Llwyd gan glywed rhai o’u cerddi nhw am yr ardal.Bydd te a theisen i ddilyn yng Nghaffi Canolfan Ymwelwyr Atomfa Trawsfynydd.
Os hoffech ragor o wybodaeth am Wyl Hedd Wyn neu i archebu tocynnau (£4 a £5 a y Stomp neu £12 am y digwyddiadau i gyd ) yna cysylltwch a Gwen Lasarus ar 01286 679465/ gwenlasarus@gwynedd.gov.uk neu Elin Alaw ar 01766 772532, neu Keith O’Brien 01766 540528
Bydd Llys Ednowain, ar agor i’r cyhoedd o 11am hyd 2pm.
Diolch i BNFL, Tafarn y Cross a Neuadd Bentref Trawsfynydd.
Cefnogir Cynllun Hyrwyddo Gwynedd ar y cyd rhwng yr Academi a Chyngor Gwynedd. Yr Academi yw'r Asiantaeth Genedlaethol er Hyrwyddo Llenyddiaeth a Chymdeithas Llenorion Cymru.