Map o'r wefan  |  Maint testun: A (arferol) | A (canolig) | A (mawr)  |  Cyferbyniad: A (arferol) | A (canolig) | A (uchel)  |  Hygyrchedd  |  Cymorth

Cyngor Gwynedd Council

   
CartrefCysylltu â niGwnewch o ar-leinA-Y o wasanaethauAdrannauMapiauFy NghyfrifEnglish
Rydych chi yma: Cartref > Newyddion > Datganiadau i'r Wasg > Datganiadau 2007 > Medi
Prif Gategori : Newyddion
Cyfredol : Medi |
 

Difrodi offer diogelwch yn Abermaw

Y nodforch ar y prom wedi ei ddifrodi
Y nodforch ar y prom wedi ei ddifrodi

Cafodd offer diogelwch y môr sydd wedi ei leoli ar y prom yn Abermaw ei ddifrodi dros y penwythnos (31/8/07).

Mae'r nodforch sydd gwerth £200 yn adnodd hollbwysig ar gyfer achub aelodau o'r cyhoedd o'r môr pan maent mewn trafferth.

Dywedodd Barry Davies, Swyddog Morwrol Cyngor Gwynedd:

"Mae offer diogelwch o'r math yma yn arbennig o bwysig i achub rhwyun sydd mewn trafferth yn y môr. Mae'r nodforch wedi ei ddefnyddio yn y gorffennol yn Abermaw, ac rydym yn annog aelodau'r cyhoedd i barchu'r offer pwysig yma.

"Mae offer tebyg wedi eu difrodi yn y gorffennol ar y prom, ac rydym felly yn galw ar unrhyw un sy'n gweld offer diogelwch wedi ei ddifrodi, yn cysylltu gyda'r Heddlu, neu gyda Harbwrfeistr Abermaw yn uniongyrchol."



Methu dod o hyd i'r hyn roeddech yn chwilio amdano? Defnyddiwch yr A-Y neu chwiliwch y wefan
Diweddarwyd: 04/09/2007
 
Telerau ac Amodau|Preifatrwydd a Chwcis|© Hawlfraint Cyngor Gwynedd 2011
Sgipio i [ brig y dudalen ]