Mae Cyngor Gwynedd yn defnyddio cwcis er mwyn cadw gwybodaeth ar eich cyfrifiadur, er mwyn gwella ein gwefan. Os ydych yn dewis peidio â derbyn cwcis oddi ar y safle hwn mae'n bosibl na fydd y wefan yn gweithio mewn modd mor soffistigedig. I weld mwy o wybodaeth am y cwcis rydym yn eu defnyddio, edrychwch ar ein polisi preifatrwydd.
Rwy'n derbyn cwcis oddi ar y safle hwn
Map o'r wefan  |  Maint testun: A (arferol) | A (canolig) | A (mawr)  |  Cyferbyniad: A (arferol) | A (canolig) | A (uchel)  |  Hygyrchedd  |  Cymorth

Cyngor Gwynedd Council

   
CartrefCysylltu â niGwnewch o ar-leinA-Y o wasanaethauAdrannauMapiauFy NghyfrifEnglish
Rydych chi yma: Cartref > Y Cyngor a Democratiaeth > Ymgynghori
 

Gwynedd Egnïol - Adolygiad Strategol

Adolygiad Strategol Maes Hamdden a Gweithgareddau Egnïol
Mae’r Cyngor wrthi’n cynnal adolygiad strategol o’r maes hamdden a gweithgareddau egnïol yng Ngwynedd. Byddwn yn ceisio bod yn llawer mwy eglur ynglŷn â’r hyn rydym am ei gyflawni a herio’r ffordd draddodiadol o wneud pethau.

Mae’n gyfle i ofyn:

  • Beth ydi anghenion trigolion Gwynedd yn y maes yma?
  • Beth yw ein nod ni yng Ngwynedd ar gyfer y maes?
  • Sut allwn ni wneud y mwyaf o’r holl adnoddau sydd gennym yng Ngwynedd er mwyn cyrraedd y nod?
  • Sut allwn ni sicrhau gwerth am arian i’r cyhoedd?

Beth yw’r nod?
“Bod byw bywyd egnïol, iach yn beth yn naturiol i bobl Gwynedd.”

  • Normaleiddio ffordd iach o fyw
  • Sicrhau cyfleoedd i bawb
  • Cryfhau ein cymunedau


Casglu barn a gwybodaeth
Rydym wedi bod yn holi pobl a grwpiau ar draws y sir ynglŷn â’u diddordebau yn y maes, beth maent yn ei wneud ar hyn o bryd, beth sydd yn eu rhwystro, a beth fyddai’n helpu. Gwnaed hyn yn ystod yr haf drwy amryw o holiaduron a sesiynau trafod.

Rydym wedi dadansoddi’r holiaduron a gallwch ddarllen yr adroddiadau isod. Gallwch hefyd ddarllen adroddiad o’r sesiynau trafod:


Ymgynghori ar y ffordd ymlaen
Y cam nesaf oedd llunio dewisiadau ar sut y gellir datblygu’r ddarpariaeth hamdden i’r dyfodol, gan gynnwys ffyrdd o gydweithio ar draws y sectorau a gwneud y mwyaf o’r adnoddau sydd gennym.

Cynhaliwyd sesiynau trafod pellach ar hyn gyda staff gwasanaeth hamdden y Cyngor, trigolion, swyddogion o asiantaethau amrywiol a chynghorwyr ym mis Hydref/Tachwedd 2011.

Cliciwch isod i weld copi o’r adroddiadau:


Adroddiad llawn
Mae adroddiad llawn wedi ei baratoi sy’n ystyried yr holl wybodaeth a gasglwyd. Mae’r adroddiad yn awgrymu cyfeiriad clir er mwyn sicrhau darpariaeth addas i’r dyfodol, a bydd y cynigion yn cael eu trafod gan bwyllgorau’r Cyngor ym mis Tachwedd a Rhagfyr 2011.


Cyswllt
Sian Griffiths
Rheolwr Partneriaethu'n Fasnachol
Cyngor Gwynedd
01286 679267
sianwgriffiths@gwynedd.gov.uk


Atodiadau

Adroddiad defnyddwyr Canolfannau Hamddenpdf (pdf, 871k)
 
 
Adroddiad sesiynau trafod Gwynedd Egnïolpdf (pdf, 89k)
 
 
Adroddiad sesiynau cyhoeddpdf (pdf, 93k)
 
 
Adroddiad sesiynau staffpdf (pdf, 102k)
 
 
Adroddiad gweithdy amlasiantaethol Tachwedd 4pdf (pdf, 124k)
 
 
Adroddiad Panel Trigolion - Gwynedd Egnïol Medi 2011pdf (pdf, 337k)
 
 
Adroddiad Holiadur Cyffredinol Gwynedd Egnïolpdf (pdf, 598k)
 

Ewch i Adobe.com i lawrlwytho'r meddalwedd di-dal Adobe© Reader neu i gael cymorth gyda darllen ffeiliau pdf.


Methu dod o hyd i'r hyn roeddech yn chwilio amdano? Defnyddiwch yr A-Y neu chwiliwch y wefan
Diweddarwyd: 06/02/2012
 
Telerau ac Amodau|Preifatrwydd a Chwcis|© Hawlfraint Cyngor Gwynedd 2011
Sgipio i [ brig y dudalen ]