Daeth oddeutu 200 o bobl i’r seremoni Wobrwyo hon, ac roedd yn glo teilwng i Wythnos Fusnes Gwynedd 2007 a gydgordiwyd gan Gyngor Gwynedd.
Cafwyd dwsinau o geisiadau o bob rhan o’r sir ac fe’u haseswyd gan banel annibynnol yn cynnwys Dr. David Joyner, Cyfarwyddwyr Porth Arloesedd Prifysgol Bangor, Sioned Rees, Pennaeth Rhanbarthol Gwasanaethau Cwsmer yn Adran Menter Arloesi a Rhwydweithiau Llywodraeth Cynulliad Cymru ac Edward Jones, Rheolwr Masnachol HSBC ar gyfer Gwynedd a Môn. Dywedodd y beirniaid eu bod wedi cael tipyn o drafferth yn dewis enillydd ar gyfer pob un o’r deuddeng categroi gan fod y safon mor uchel, a bod hynny’n adlewyrchu’n ffafriol ar fusnesau’r sir ac yn argoeli’n dda ar gyfer y dyfodol.
Y busnesau a ddaeth i’r brig eleni oedd:
- Gwobr Entrepreneur Ifanc * ar agor i unigolion rhwng 16 a 30 oed (noddwyd gan Grŵp Niwclear Prydain ar ran yr Awdurdod Dadgomisiynu Niwclear)
Ymgynghoriaeth Madryn Cyf, Pwllheli - Gwobr Technoleg a Gwyddoniaeth (noddwyd gan Borth Arloesi Prifysgol Bangor)
Draig Technology, Bangor - Gwobr Busnes Dwyieithog (noddwyd gan Fwrdd yr Iaith Gymraeg)
Sain (Recordiau) Cyf., Llandwrog, Caernarfon - Gwobr Dysgu Mentro * ar agor i ysgolion a grwpiau ieuenctid lleol (noddwyd gan Bartneriaeth Economaidd Gwynedd)
Cwmni Cŵl, Ysgol Gynradd Eifion Wyn AC
Ysgol Edmund Prys, Gelli Lydan, Blaenau Ffestiniog - Gwobr Diwydiannau Creadigol (noddwyd gan Borth Arloesi Prifysgol Bangor)
Cerrig Cyf., Pwllheli - Gwobr Cyflogwr y Flwyddyn (noddwyd gan Gyrfa Cymru)
Cymorth Llaw, Bangor - Gwobr Busnes Newydd Gorau (noddwyd gan Venture Wales a Menter Gwynedd)
J&B Willbrook, Dyffryn Ardudwy - Gwobr Busnes Amgylcheddol (noddwyd gan Envirowise)
GEWS, Penrhyndeudraeth - Gwobr Cyfraniad Cymunedol (noddwyd gan Synnwyr Busnes - Business Sense)
Galeri Cyf., Caernarfon - Gwobr Twristiaeth (noddwyd gan Bartneriaeth Twristiaeth Gogledd Cymru a Phartneriaeth Twristiaeth Canolbarth Cymru)
Oriel Plas Glyn y Weddw, Llanbedrog, Pwllheli - Gwobr Busnes y Flwyddyn (trosiant o lai na £1M) (noddwyd gan Menter Môn)
Canolfan Ddringo Beacon, Ceunant, Caernarfon - Gwobr Busnes y Flwyddyn (trosiant o fwy na £1M) (noddwyd gan Llygad Busnes)
Cerrig Cyf., Pwlllheli
Cyflwynwyd gwobr ariannol a thystysgrif i bob enillydd, yn ogystal â thlws a gomisiynwyd yn arbennig wedi’i gynllunio gan yr artist lleol Anne Smith.
Yn ogystal â’r prif gategorïau, roedd yr achlysur eleni hefyd yn cynnwys Gwobr Cyfraniad Arbennig Rhwydwaith Busnes Gwynedd er mwyn cydnabod cyfraniad sylweddol gan fusnes neu unigolyn at fywyd busnes yn y Sir. Cylwynwyd y wobr i’r gwleidydd a’r economegydd lleol, Dafydd Wigley, am ei gyfraniad aruthrol i’r sector busnes a thwristiaeth yng Ngwynedd.
Dywedodd Sioned Williams, Pennaeth Economi ac Adfywio Cyngor Gwynedd: “Cafwyd ymateb gwych i’r Gwobrau eto eleni. Braf oedd gweld cymaint o bartneriaid yn cydweithio mor agos er mwyn arddangos yr amrywiaeth cyfoethog o fusnesau sydd yn llwyddo’n lleol yma yng Ngwynedd.
“Mae Gwynedd yn lle da i fyw ac yn lle da i fentro, ac mae’r Wythnos a’r Gwobrau Busnes wedi bod yn gyfle arbennig i ddathlu llwyddiannau’r goreuon o blith busnesau, ysgolion a sefydliadau’r Sir."