Map o'r wefan  |  Maint testun: A (arferol) | A (canolig) | A (mawr)  |  Cyferbyniad: A (arferol) | A (canolig) | A (uchel)  |  Hygyrchedd  |  Cymorth

Cyngor Gwynedd Council

   
CartrefCysylltu â niGwnewch o ar-leinA-Y o wasanaethauAdrannauMapiauFy NghyfrifEnglish
Rydych chi yma: Cartref > Newyddion > Datganiadau i'r Wasg > Datganiadau 2007 > Mai
 

Baneri Glas yn Chwifio Ledled Gwynedd

Mae 10 o draethau a marinas ledled Gwynedd ymhlith y gorau yn Ewrop, wedi iddynt ennill Baneri Glas Ewropeaidd.

Cyhoeddwyd rhestr Baneri Glas Cymru mewn seremoni arbennig a gynhaliwyd ar y Promenad yng Nghriccieth ddydd Mercher, 16 Mai.

Ymhlith y traethau a marinas llwyddiannus, a anrydeddwyd gyda’r Faner Las, mae Aberdyfi a Tywyn yn ne Meirionnydd, ymlaen i Abermaw, Criccieth, Pwllheli, Abersoch, Dinas Dinlle a Doc Fictoria Caernarfon.

Mae’r Faner Las yn cael ei chyflwyno bob blwyddyn mewn mwy na 32 o wledydd drwy’r byd. Bellach mae 44 o draethau a 5 marina trwy Gymru wedi ennill yn anrhydedd, nifer sydd yn torri’r record. Mae ennill gwobr y Faner Las yn gydnabyddiaeth o gyrraedd y rheng flaen ymysg traethau a marinas.

Dywedodd Cadeirydd Cyngor Gwynedd, y Cynghorydd Meinir Owen, wrth groesawu’r seremoni yng Nghriccieth:

“Rydym yn falch iawn o allu cyhoeddi’r rhestr o draethau sydd wedi ennill y Faner Las eleni. Mae amryw o lecynnau ledled Gwynedd ymhlith y rhestr, ac rydym yn ddiolchgar iawn ein bod yn gallu ymfalchio yn eu glendid a’r safon cyfleusterau sydd ar gael ynddynt.

“Mae’r ffaith fod 10 o leoliadau wedi ennill yr anrhydedd yma yng Ngwynedd yn dysteb i fuddsoddiad helaeth y Cyngor yn y gwaith o wella traethau ledled y Sir.”

Mae pob traeth yn cael eu beirniadu yn ôl 29 o feini prawf sy’n cynnwys ansawdd dŵr o’r safon uchaf, rheoli sbwriel, darparu gwybodaeth, rheoli cŵn a rheoli amgylcheddol cynaliadwy. Mae’r marinas yn cael eu beirniadu yn unol ag 16 o feini prawf sy’n yn cynnwys cyfleusterau derbyn ar gyfer gwastraff peryglus, cyfarpar achub bywyd digonol ac ymrwymiad i ddiogelu eu hamgylchedd lleol.

Mae’r Baneri Glas yng Nghymru yn cael eu gweinyddu gan Cadwch Gymru’n Daclus, a dyma’r hyn a ddywedodd eu Prif Weithredwr, Tegryn Jones:

“Pan gyflwynwyd y gwobrau yng Nghymru ddechrau’r nawdegau dim ond dau draeth oedd yn cwrdd â’r meini prawf ond eleni rydym yn dathlu’r newydd da bod cymaint â 44 o’n traethau a 5 marina wedi cyrraedd y rhestr. Serch hynny, rydym i gyd yn ymwybodol bod gennym gryn bellter i fynd cyn y gallwn honni bod pob modfedd o’n 750 milltir o draeth yn berffaith lân.

“Cyflawnwyd llawer iawn gan yr Awdurdodau Lleol a Dŵr Cymru yn ystod y blynyddoedd diwethaf o ran gwella ansawdd y dŵr ymdrochi a’r isadeiledd ar y tir. Bellach rydym yn galw ar bawb a ddaw i ymweld â’r traethau i wneud eu rhan drwy sicrhau eu bod yn parchu ein trysorau cenedlaethol."

Traethau a’r Marinas Gwynedd sydd wedi ennill y Faner Las yn 2007: Aberdyfi; Abermaw; Abersoch; Criccieth; Dinas Dinlle (Morfa Dinlle); Doc Fictoria Caernarfon, (Marina); Hafan Pwllheli (Marina); Pwllheli, Marian y De; Tywyn a’r Friog.

 

 



Methu dod o hyd i'r hyn roeddech yn chwilio amdano? Defnyddiwch yr A-Y neu chwiliwch y wefan
Diweddarwyd: 16/05/2007
 
Telerau ac Amodau|Preifatrwydd a Chwcis|© Hawlfraint Cyngor Gwynedd 2011
Sgipio i [ brig y dudalen ]