Mae amrywiaeth o weithgareddau wedi eu trefnu fel rhan o ŵyl Gwanwyn. Mae’r ŵyl yn dathlu mynd yn hŷn fel cyfle i adnewyddu, i dyfu, ac i fod yn greadigol.
Dywedodd Janet Roberts, Cydlynydd Strategaeth Pobl Hŷn Cyngor Gwynedd:
“Mae’r ŵyl hon yn cynnig cyfleon arbennig i bobl hŷn ym maes celfyddyd, arlunio, drama, adrodd straeon, cerddoriaeth, llenyddiaeth, dawns neu ffilm. Bwriad Gŵyl Gwanwyn yw amlygu a hyrwyddo cyfraniad pobl hŷn at y celfyddydau trwy’r flwyddyn ac i sicrhau fod pawb yn cydnabod cyfraniad arbennig pobl hŷn i’r celfyddydau yma yng Nghymru.
“Gyda nifer o ddigwyddiadau eisoes wedi eu trefnu mewn amryw leoliadau ledled Gwynedd, rydym yn dal i fod yn awyddus i glywed gan unrhyw un fyddai’n hoffi cymryd rhan neu drefnu unrhyw ddigwyddiad arall i ddathlu a hyrwyddo creadigrwydd pobl hŷn ledled y Sir,ac yn wir yn genedlaethol.”
Lansiwyd yr ŵyl yn lleol yng Ngwynedd yn Galeri Caernarfon ddydd Iau, 10 Mai yn ystod cyngerdd Tonig gyda Linda Griffiths. Fel rhan o’r digwyddiad, cyflwynodd Bardd Cenedlaethol Cymru, Gwyn Thomas cerdd a luniwyd yn arbennig i ddathlu Gŵyl Gwanwyn.
Gall unrhyw un sy’n gwybod am ddigwyddiad allai gael ei ddathlu fel rhan o’r ŵyl, neu unrhyw ddigwyddiad maent yn ystyried ei drefnu yn ystod y mis, gysylltu â Chydlynydd Strategaeth Pobl Hŷn Cyngor Gwynedd ar 01286 679873, neu e-bostio: JanetRoberts@gwynedd.gov.uk