Cafodd yr holl geisiadau eu hystyried gan banel o feirniaid annibynnol, sef Dr. David Joyner, Cyfarwyddwyr Porth Arloesi Prifysgol Bangor, Sioned Rees, Pennaeth Rhanbarthol Gwasanaethau Cwsmer yn Adran Menter Arloesi a Rhwydweithiau Llywodraeth Cynulliad Cymru ac Edward Jones, Rheolwr Masnachol ar gyfer Gwynedd & Môn yn HSBC.
Dywedodd Sioned Williams, Pennaeth Economi ac Adfywio Cyngor Gwynedd:
“Rydym yn hynod falch gyda’r nifer o geisiadau a gafwyd. Mae yna gymuned fusnes eang ac amrywiol yma yng Ngwynedd, ac fe adlewyrchwyd hynny gan yr ystod helaeth o fusnesau a wnaeth gais a’r rheiny sydd wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer y Gwobrau. Roedd y beirniaid wedi’u syfrdanu gan safon uchel y ceisiadau a gafwyd gan fusnesau o bob maint a sector, a chan yr ysgolion lleol a wnaeth gystadlu yn y categori Dysgu Mentro.”
Y busnesau a’r ysgolion sydd wedi cyrraedd y rhestr fer yw:
- Gwobr Entrepreneur Ifanc (noddwyd gan Grŵp Niwclear Prydain ar ran yr Awdurdod Dadgomisiynu Niwclear)
Ymgynghoriaeth Madryn Cyf., Pwllheli
QDM Aviation, Dinas Dinlle
Dwdws, Pwllheli
- Gwobr Technoleg a Gwyddoniaeth (noddwyd gan Borth Arloesi Prifysgol Bangor)
Cerrig Cyf. Pwllheli
Technoleg Draig Technology Ltd., Bangor
ETL Solutions Ltd., Blaenau Ffestiniog
- Gwobr Busnes Dwyieithog (noddwyd gan Fwrdd yr Iaith Gymraeg)
Tafarn y Plu, Llanystumdwy, Criccieth
Sain (Recordiau) Cyf., Llandwrog, Caernarfon
Technoleg Draig Technology Ltd., Bangor
- Gwobr Dysgu Mentro (noddwyd gan Bartneriaeth Economaidd Gwynedd)
Cwmni Cŵl, Ysgol Gynradd Eifion Wyn
Ysgol Edmwnd Prys, Gellilydan
- Gwobr Diwydiannau Creadigol (noddwyd gan Borth Arloesi Prifysgol Bangor)
Cerrig Cyf., Pwllheli
Sain (Recordiau) Cyf., Llandwrog, Caernarfon
Beacon Climbing Centre Ltd., Ceunant, Caernarfon
- Gwobr Cyflogwr y Flwyddyn (noddwyd gan Gyrfa Cymru)
Pitian Patian Cyf., Caernarfon
Royal Sportsman Hotel, Porthmadog
Cymorth Llaw Ltd, Bangor
- Gwobr Busnes Newydd Gorau (noddwyd gan Venture Wales a Menter Gwynedd)
Twelfth Man Ltd., Bangor
Y Den Cyf, Llanberis
J&B Willbrook Ltd., Dyffryn Ardudwy
- Gwobr Busnes Amgylcheddol (noddwyd gan Envirowise)
Bwyd y Brenin, Dolgefeliau, Dolgellau
Y Goeden Eirin, Dolydd, Caernarfon
GEWS Ltd., Penrhyndeudraeth
- Gwobr Cyfraniad Cymunedol (noddwyd gan Synnwyr Busnes - Business Sense)
Galeri Cyf., Caernarfon
Dafydd Hardy Estate Agents Ltd., Caernarfon
Meithrinfa Meirion Cyf., Brithdir, Dolgellau
- Gwobr Twristiaeth (noddwyd gan Bartneriaeth Twristiaeth Gogledd Cymru a Phartneriaeth Twristiaeth Canolbarth Cymru)
Tafarn y Plu, Llanystumdwy, Criccieth
QDM Aviation Ltd., Dinas Dinlle
Oriel Plas Glyn y Weddw, Llanbedrog, Pwllheli
- Gwobr Busnes y Flwyddyn (trosiant o lai na £1M) (noddwyd gan Menter Môn)
Gwesty’r Royal Sportsman, Porthmadog
Beacon Climbing Centre, Ceunant, Caernarfon
AVW, Caernarfon
- Gwobr Busnes y Flwyddyn (trosiant o fwy na £1M) (noddwyd gan Llygad Busnes)
GEWS Ltd., Penrhyndeudraeth
Cerrig Cyf., Pwlllheli
J&B Willbrook Ltd, Dyffryn Ardudwy
Bydd yr enillwyr yn cael eu cyhoeddi mewn Cinio Gala mawreddog yng Ngwesty’r Celt, Caernarfon nos Iau, 24 Mai. Yn ogystal ag enillwyr y prif gategorïau, bydd Gwobr Cyfraniad Arbennig Rhwydwaith Busnes Gwynedd yn cael ei chyflwyno i unigolyn sydd wedi gwneud cyfraniad sylweddol at fywyd busnes yn y Sir.
Dywedodd trefnwyr y digwyddiad, Elliw Ellis-Davies a Gwen Griffiths:
“Rydym yn edrych ymlaen yn fawr at y seremoni wobrwyo ei hun a’n gobaith yw dangos y gorau o Wynedd - o’r cynnyrch lleol ar y fwydlen, i’r adloniant ac wrth gwrs y busnesau sydd ar y rhestr fer. Mae hyd yn oed y tlysau, a noddwyd gan HSBC, wedi cael eu creu’n lleol gan y cynllunydd gwydr Anne Smith o Ben Llŷn. Bydd y noson yn cael ei chyflwyno gan Daloni Metcalf, a bydd adloniant gan y gantores jazz boblogaidd, Lleuwen Steffan a’i band Acoustique. Yr hyn sy’n wych am y Gwobrau yw ein bod ni wedi medru cynnwys cymaint o gyflenwyr a noddwyr lleol, a gobeithio y bydd eto eleni yn noson i’w chofio.”
Mae rhywfaint o docynnau’n dal i fod ar gael ar gyfer y seremoni ac maent ar werth am £50 y pen neu £450 am fwrdd o 10. Gellir archebu tocynnau trwy gysylltu â thîm Gwobrau Busnes Gwynedd 2007 ar 01286 685254 neu 01286 685212