Map o'r wefan  |  Maint testun: A (arferol) | A (canolig) | A (mawr)  |  Cyferbyniad: A (arferol) | A (canolig) | A (uchel)  |  Hygyrchedd  |  Cymorth

Cyngor Gwynedd Council

   
CartrefCysylltu â niGwnewch o ar-leinA-Y o wasanaethauAdrannauMapiauFy NghyfrifEnglish
Rydych chi yma: Cartref > Newyddion > Datganiadau i'r Wasg > Datganiadau 2007 > Mawrth
 

Gwyliwch rhag talu’n ddrud am brofion tân

Mae rhybudd i berchnogion busnesau fod yn wyliadwrus rhag talu prisiau uchel i gwmnïau gwblhau profion tân, sydd mewn gwirionedd yn ddigon syml iddynt eu gwneud eu hunain.

Mae Safonau Masnach Gwynedd yn rhedeg ymgyrch ar y cyd â’r Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru er mwyn rhybuddio perchnogion busnesau am gwmnïau sy’n defnyddio tactegau dychryn er mwyn gwneud arian rhwydd fel canlyniad i ofynion rheolau tân newydd.

Mae amryw o fusnesau lleol eisoes wedi cael galwadau ffôn yn cynnig Asesiadau Risg Tân. Mae rhai cwmnïau wedi gofyn am gannoedd o bunnoedd er mwyn cwblhau’r gwaith ac wedi dweud wrth berchnogion busnesau bod perygl iddynt gael dirwy o £1,000 os nad ydynt yn cynnal yr asesiadau. Mae rhai cwmnïau eraill wedi cynnig gwerthu offer diffodd tân i fusnesau am bris rhad.

Eglurodd Mike Doyle, Swyddog Arolygu Diogelwch Tân:

"Daeth y rheolau i rym ym mis Hydref 2006. Mae perchennog busnes, fel y person cyfrifol, yn gorfod gwneud Asesiad Risg Tân ar yr eiddo. Gallant un ai wneud hyn eu hunain neu gymryd cyngor arbenigol."

Ychwanegodd, "Ni fydd Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn gwneud Asesiadau Risg Tân gan mai ni yw’r Awdurdod Gorfodi, ond byddwn wrth law i roi cyngor a gwybodaeth i fusnesau."

Pwysleisiodd John Reynolds, Rheolwr Gwarchod y Cyhoedd Cyngor Gwynedd:

"Dylai busnesau sy’n bryderus am alwadau ffôn amheus gysylltu â’r Gwasanaeth Tân ac Achub am ddim am gyngor arbenigol. Mae’n ddigon posib y gall perchnogion gwblhau’r asesiadau risg yma eu hunain, heb wario cannoedd o bunnoedd, ond ni fydd prynu offer diffodd tân yn ddigonol er mwyn cadw at y rheolau."

"Treuliwch amser yn ymchwilio i werth am arian yr hyn y mae cwmniau yn ei gynnig ac ystyriwch ofyn am fwy nag un pris am y gwaith. Ni ddylech deimlo dan bwysau i gael eich brysio nag i wario heb fod angen."

Mae’r Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru, ynghyd â nifer o fusnesau cofrestredig sydd hefyd yn darparu cymorth i fusnesau o fewn y gyfraith. Am ragor o fanylion, cysylltwch gyda’r Gwasanaeth Tân ac Achub ar 01745 535 250.

 

 



Methu dod o hyd i'r hyn roeddech yn chwilio amdano? Defnyddiwch yr A-Y neu chwiliwch y wefan
Diweddarwyd: 10/04/2007
 

Gweler Hefyd

Telerau ac Amodau|Preifatrwydd a Chwcis|© Hawlfraint Cyngor Gwynedd 2011
Sgipio i [ brig y dudalen ]