Map o'r wefan  |  Maint testun: A (arferol) | A (canolig) | A (mawr)  |  Cyferbyniad: A (arferol) | A (canolig) | A (uchel)  |  Hygyrchedd  |  Cymorth

Cyngor Gwynedd Council

   
CartrefCysylltu â niGwnewch o ar-leinA-Y o wasanaethauAdrannauMapiauFy NghyfrifEnglish
Rydych chi yma: Cartref > Newyddion > Datganiadau i'r Wasg > Datganiadau 2007 > Mawrth
 

Gwynedd yn dathlu Wythnos Cewynnau Go Iawn

Gydag oddeutu 200 miliwn o gewynnau tafladwy yn cael eu taflu bob blwyddyn yng Nghymru – sef bron 400 y funud - mae cynghorau ledled y wlad yn cydweithio i geisio annog mwy o rieni i roi’r gorau i ddefnyddio cewynnau tafladwy ac ystyried defnyddio cewynnau y gellir eu defnyddio dro ar ôl tro.

Mae Cyngor Gwynedd yn cefnogi ymgyrch Cynllun Craff am Wastraff a Chymru Gynhaliol i hyrwyddo’r defnydd o gewynnau go iawn yn ystod Wythnos Cewynau go iawn rhwng 11 a 18 Mawrth 2007.

Dywedodd Gwenllian Dafydd, Swyddog Gwastraff ac Ailgylchu Cyngor Gwynedd:

“Mae’r wythnos yma yn gyfle i dynnu sylw at gael gwared ar ddelwedd negyddol cewynnau go iawn. Mae cewynnau go iawn wedi cael eu gweddnewid ac maen nhw’n boblogaidd ymysg rhieni diolch i batrymau ciwt a chŵl, o ddyluniau gwartheg i batrymau’r enfys.  Maen nhw hefyd yn gyfleus i’w defnyddio ac yn hawdd i’w golchi.

“Gall defnyddio cewynnau go iawn yn hytrach na rhai tafladwy arbed faint o wastraff sy’n cael ei anfon i safleoedd tirlenwi bob blwyddyn a helpu rhieni i arbed hyd at £500 a hyd yn oed mwy gydag ail fabi.  Dyma ddim ond dau o’r rhesymau pam ein bod ni am annog mwy o rieni o Wynedd i’w defnyddio.”

Mae’r ymgyrch cewynnau go iawn yng Nghymru yn cynnig gwybodaeth a chyngor diduedd am ddewis a defnyddio cewynnau go iawn drwy ei llinell gyngor ar 0845 4562477.  Ewch i www.realnappies-wales.org.uk am ragor o fanylion ac am wybodaeth am ddigwyddiadau eraill i ddathlu Wythnos Cewynnau Go Iawn.

Dyma’r gweithgaredd diweddaraf yn ymgyrch gyfryngau ddwyieithog ‘ailgylchu dros Gymru/recycle for Wales’ Cynllun “Craff am Wastraff”.  I ddysgu mwy am sut y gallwch chi helpu trwy arbed, ailddefnyddio ac ailgylchu’ch gwastraff, ewch i’r wefan www.craffamwastraff.org.uk

 



Methu dod o hyd i'r hyn roeddech yn chwilio amdano? Defnyddiwch yr A-Y neu chwiliwch y wefan
Diweddarwyd: 12/03/2007
 
Telerau ac Amodau|Preifatrwydd a Chwcis|© Hawlfraint Cyngor Gwynedd 2011
Sgipio i [ brig y dudalen ]