Map o'r wefan  |  Maint testun: A (arferol) | A (canolig) | A (mawr)  |  Cyferbyniad: A (arferol) | A (canolig) | A (uchel)  |  Hygyrchedd  |  Cymorth

Cyngor Gwynedd Council

   
CartrefCysylltu â niGwnewch o ar-leinA-Y o wasanaethauAdrannauMapiauFy NghyfrifEnglish
Rydych chi yma: Cartref > Newyddion > Datganiadau i'r Wasg > Datganiadau 2007 > Mawrth
 

Ymrwymo i wneud Gwynedd yn lle gwyrdd i fyw

Mae ffigyrau diweddaraf yn dangos bod trigolion Gwynedd yn ailgylchu a chompostio 24% o wastraff tŷ.

Sut bynnag gyda thargedau llym o 40%wedi ei osod ar gyfer y flwyddyn 2009/2010, mae Cyngor Gwynedd yn gweithio’n galed i sicrhau fod mwy o wastraff yn mynd i’r bocsys ailgylchu glas a’r biniau compostio brown. 

Mae canolfannau ailgylchu newydd wedi agor yn Harlech, Bangor a'r Bala ac yn fuan yng Nghaernarfon, hyn yn ychwanegol i’r rhai sydd eisoes ar agor i’r cyhoedd yng Ngarndolbenmaen a Cilgwyn. Bydd cyfleusterau eraill yn agor yn ystod y misoedd nesaf. Hefyd mae casglu plastigion wedi ei dreialu yn ardal Llanrug a byddwn yn ymestyn hyn i weddill Arfon yn ystod y misoedd nesaf.

Dywedodd y Cynghorydd Emyr Pugh, Arweinydd Portffolio Priffyrdd a Bwrdeistrefol Cyngor Gwynedd:

“Rydym yn ddiolchgar iawn i drigolion Gwynedd am eu hymdrechion i leihau canran gwastraff y Sir sydd yn cael ei dirlenwi. Gyda'u cefnogaeth mae modd cyrraedd y targedau nesaf

“Er gwella’r lefel ailgylchu gwastraff ymhellach, yr ydym wedi buddsoddi mewn nifer o gyfleusterau gwahanol fydd yn ei gwneud yn haws i drigolion Gwynedd ailgylchu a chompostio eu gwastraff.”

Er mwyn lleihau ymhellach y lefel o wastraff sy’n cael ei dirlenwi, mae’r Cyngor yn cyflwyno cyfyngiad ar faint o wastraff na ailgylchir y gall pob cartref ei waredu pob wythnos. Drwy wneud hyn, gobeithir y bydd trigolion yn gwneud mwy o ddefnydd o’r gwasanaeth bocs ailgylchu glas a’r bin brown ar gyfer gwastraff gardd. 

Ychwanegodd Gwyn Morris Jones, Pennaeth Priffyrdd a Bwrdeistrefol Cyngor Gwynedd:

“Tra bod Gwynedd eisoes wedi cynyddu’r lefelau o wastraff yr ydym yn ei ailgylchu a’i gompostio mae angen cynyddu’r lefelau yn sylweddol dros y blynyddoedd nesaf os ydym am gwrdd â thargedau uchelgeisiol Llywodraeth Cynulliad Cymru.

“Os ydym am gwrdd â’r targed o 40% sydd wedi ei osod ar gyfer 2009/10, rydym angen sicrhau fod mwy o drigolion Gwynedd yn gwneud y defnydd gorau o’r bocsys glas, biniau olwyn brown a chyfleusterau ailgylchu lleol. Gan weithio gyda’n gilydd gallwn helpu i sicrhau y bydd Gwynedd yn lleihau ei dibyniaeth ar dirlenwi gwastraff.”

Mae’r Cyngor eisoes wedi cyflwyno’r trefniadau newydd i ardal Dwyfor, sy’n golygu fod y casgliad wythnosol o bob cartref yn cael ei gyfyngu i lond un bin olwyn neu dri bag bin du o wastraff bob wythnos. Mae’r drefn yma yn cael ei chyflwyno yn swyddogol yn ardal Arfon o 5 Mawrth 2007 ac yna i ardal Meirionnydd ar 6 Gorffennaf 2007.

Bydd swyddogion Ailgylchu’r Cyngor ar gael i egluro i drigolion sut gallant leihau ei gwastraff ac aros o fewn y cyfyngiadau newydd drwy ailgylchu. Gall trigolion sydd eisiau mwy o wybodaeth neu gyngor am y newidiadau gysylltu â Llinell Gymorth Gwastraff ac Ailgylchu Cyngor Gwynedd ar 01286 679872 neu drwy e-bostio: ailgylchu@gwynedd.gov.uk

 



Methu dod o hyd i'r hyn roeddech yn chwilio amdano? Defnyddiwch yr A-Y neu chwiliwch y wefan
Diweddarwyd: 05/03/2007
 
Telerau ac Amodau|Preifatrwydd a Chwcis|© Hawlfraint Cyngor Gwynedd 2011
Sgipio i [ brig y dudalen ]