Mae’r safle preifat wedi ei ddynodi yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig oherwydd yr adar môr sydd yn nythu ar y clogwyni serth. Mae’n un o’r safleoedd nythu pwysicaf ar gyfer rhywogaethau o adar môr megis gwylogod, llursod a gwylanod coesddu yng ngogledd Cymru. Ceir nifer llai o rywogaethau eraill yn nythu hefyd fel aderyn drycin y graig, y fulfran werdd, y fulfran a gwylan y penwaig. Nodir bo’r fran coesgoch yn nythu gerllaw hefyd, a bo morloi llwydion i’w cael yn y dyfroedd o amgylch y safle.
Tros y blynyddoedd, mae llawer o hen sbwriel wedi ei arllwys tros ochr y chwarel i’r môr, ond mae llawer o hwn dal i fod ar y clogwyn ac yn creu perygl i’r adar. Nid yn unig mae’r safle yn bwysig o ran ei fywyd gwyllt, mae hefyd yn bwysig o fewn cyd-destun hanesyddol yn ei rôl yn niwydiant chwarela Llŷn, a hefyd fel rhan o dirlun godidog Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Llŷn.
Y bwriad fel rhan o’r cynllun hwn yw cydweithio gyda’r perchennog, Mr Christopher Garrod, yn ogystal â’r Cyngor Cefn Gwlad a swyddfa Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Llŷn er mwyn symud y sbwriel. Bydd y gwaith yn cael ei gynnal ar ddydd Mercher, 24 Ionawr, 2007. Fel rhan o’r gwaith, bydd dringwyr arbenigol o gwmni Colin Jones Rock Engineering ym Mhorthmadog yn dringo i lawr wyneb y clogwyn morol a thynnu’r sbwriel yn ôl i fyny i’r chwarel ar raffau, cyn ei symud oddi yno i’r safle gwaredu gwastraff.
Fe ariennir y gwaith hwn ar y cyd rhwng Prosiect Gweithredu Natur Gwynedd ac Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Llŷn.