Map o'r wefan  |  Maint testun: A (arferol) | A (canolig) | A (mawr)  |  Cyferbyniad: A (arferol) | A (canolig) | A (uchel)  |  Hygyrchedd  |  Cymorth

   
CartrefCysylltu â niGwnewch o ar-leinA-Y o wasanaethauAdrannauMapiauFy NghyfrifEnglish
Rydych chi yma: Cartref > Newyddion > Datganiadau i'r Wasg > Datganiadau 2007 > Ionawr
 

Gwasanaeth Croesi Plant Ysgol

Ydych chi’n awyddus helpu er mwyn sicrhau llwybr diogel i’r ysgol i blant yn ardal Meirionnydd? Mae Cyngor Gwynedd yn chwilio am bobl addas i ymgymryd â gwaith Gwasanaeth Croesi Plant Ysgol yn Ysgol y Gader, Dolgellau ac yn Ysgol Llanelltyd.

Gyda’r ddwy swydd yn wag o fis Chwefror ymlaen, mae’r Cyngor yn awyddus iawn i gael swyddogion addas yn eu lle mor fuan â phosib.

Dywedodd Heather Lynne Jones, Swyddog Diogelwch y Ffyrdd Cyngor Gwynedd:

“Mae’r swydd yma yn un hynod bwysig gan ei fod yn gwarchod diogelwch plant ifanc wrth iddynt gerdded i’r ysgol, ond mae hefyd yn bwysig o ran hyrwyddo diogelwch ar y ffyrdd.”

Os oes gennych chi ddiddordeb yn y swydd gyda’r Gwasanaeth Croesi Plant Ysgol ger Ysgol y Gader neu Ysgol Llanelltyd, cysylltwch â Heather Lynne Jones, Swyddog Diogelwch y Ffyrdd Cyngor Gwynedd ar 01286 679891, neu 07867 982518.

 



Methu dod o hyd i'r hyn roeddech yn chwilio amdano? Defnyddiwch yr A-Y neu chwiliwch y wefan
Diweddarwyd: 15/01/2007
 
Telerau ac Amodau|Preifatrwydd a Chwcis|© Hawlfraint Cyngor Gwynedd 2014
Sgipio i [ brig y dudalen ]