Map o'r wefan  |  Maint testun: A (arferol) | A (canolig) | A (mawr)  |  Cyferbyniad: A (arferol) | A (canolig) | A (uchel)  |  Hygyrchedd  |  Cymorth

Cyngor Gwynedd Council

   
CartrefCysylltu â niGwnewch o ar-leinA-Y o wasanaethauAdrannauMapiauFy NghyfrifEnglish
Rydych chi yma: Cartref > Newyddion > Datganiadau i'r Wasg > Datganiadau 2007 > Ionawr
 

Santes Dwynwen – Neges Lenyddol i Gariadon Gwynedd

Ydych chi’n berson rhamantus ac eisiau anfon neges arbennig i’ch anwylyd ar 25 Ionawr, Dydd Santes Dwynwen, sef Nawddsant Cariadon Cymru?

Bydd Gwen Lasarus, Hyrwyddwr Llenyddiaeth Gwynedd, yn gweithredu fel llatai i gariadon Gwynedd a thu hwnt eto eleni.

Beth am anfon cerdyn neu e-gerdyn at eich cariad, wedi ei ddylunio’n arbennig gan yr artist Catrin Meirion ac englyn wedi ei ysgrifennu’n arbennig ar gyfer yr achlysur gan y Prifardd Myrddin ap Dafydd.

Dim ond 75 cerdyn sydd ar gael , felly y cyntaf i’r felin. Mae’r gwasanaeth hwn am ddim, diolch i gefnogaeth yr Academi a Chyngor Gwynedd.

Cefnogir Cynllun Hyrwyddo Llenyddiaeth Gwynedd ar y cyd rhwng yr Academi a Chyngor Gwynedd. Yr Academi yw'r Asiantaeth Genedlaethol er Hyrwyddo Llenyddiaeth a Chymdeithas Llenorion Cymru.

Am ragor o fanylion, cysylltwch â Gwen Lasarus, Hyrwyddwr Llenyddiaeth Gwynedd, Llyfrgell Caernarfon, Allt Pafiliwn, Caernarfon, Gwynedd LL55 1AS, ffoniwch 01286 679465, neu anfonwch e-bost: gwenlasarus@gwynedd.gov.uk  

 



Methu dod o hyd i'r hyn roeddech yn chwilio amdano? Defnyddiwch yr A-Y neu chwiliwch y wefan
Diweddarwyd: 15/01/2007
 

Cysylltau Allanol

 
*Nid yw Cyngor Gwynedd yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol

Gweler Hefyd

Telerau ac Amodau|Preifatrwydd a Chwcis|© Hawlfraint Cyngor Gwynedd 2011
Sgipio i [ brig y dudalen ]