Dynodwyd rhannau o Benrhyn Llŷn yn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol (AHNE) yn ôl yn 1956; eleni felly mae hanner can mlynedd ers y digwyddiad pwysig hwnnw. Mae arfordir amrywiol a diddorol a’r tirlun hardd yn nodweddion amlwg yn Llŷn ond mae llawer o rinweddau yn cyfrannu at gymeriad unigryw'r ardal.
Er mwyn codi ymwybyddiaeth am rai o rinweddau AHNE Llŷn mae Uned AHNE Cyngor Gwynedd wedi trefnu digwyddiadau yn ystod 2006 i gyd fynd a’r hanner can mlwyddiant. Mae amrywiaeth o weithgareddau yn cynnwys cyfres o deithiau cerdded, sgyrsiau, sesiynau hyfforddi a chystadlaethau.
Yn cychwyn y rhaglen o ddigwyddiadau mae taith gerdded ar Garn Fadryn yn cael ei gynnal ar ddydd Sadwrn, 13 Mai, ac mae nifer eang ac amrywiol o weithgareddau i ddilyn.
I archebu lle ar y daith neu am fanylion pellach, cysylltwch â’r Uned AHNE y Cyngor:
Ffôn: 01758 704155/ 176
e-bost: AHNELlynAONB@gwynedd.gov.uk