Map o'r wefan  |  Maint testun: A (arferol) | A (canolig) | A (mawr)  |  Cyferbyniad: A (arferol) | A (canolig) | A (uchel)  |  Hygyrchedd  |  Cymorth

Cyngor Gwynedd Council

   
CartrefCysylltu â niGwnewch o ar-leinA-Y o wasanaethauAdrannauEnglish
Rydych chi yma: Cartref > Newyddion > Datganiadau i'r Wasg > Datganiadau 2006 > Ebrill
 

Bywyd newydd i adeiladau hanesyddol

Bydd canolfan hanes unigryw gwerth £453,766 a fydd yn adnodd gwerthfawr i ddehongli hanes lleol trwy gyfrwng archif digidol yn cael ei hagor yn swyddogol yng Nghlynnog Fawr ar ddydd Mawrth, 25 Ebrill.

Nod Canolfan Hanes Uwchgwyrfai yw darparu deunydd hanesyddol, addysgol a chymunedol i boblogaeth leol ac ymwelwyr, ac yn ennyn diddordeb yn hanes a diwylliant yr ardal. Bydd y ganolfan hefyd yn darparu cylchgrawn hanes misol ar gyfer y deillion.

Dywedodd y Cynghorydd Dafydd Iwan, sy’n arwain ar Ddatblygu ar Gyngor Gwynedd:

“Mae datblygiad Canolfan Hanes Uwchgwyrfai yn brawf o’r hyn y gellir ei gyflawni gan bobl leol wrth iddynt weithio gyda’i gilydd er budd eu cymuned.”

“Bydd y ganolfan bwysig yma yn darparu ystod eang o weithgareddau ar gyfer pawb sy’n ymfalchio yn hanes yr ardal, a bydd hefyd yn gyfleuster gwych i’r rheini sy’n diddori mewn hanes teuluol.”

Addaswyd dau adeilad hanesyddol yng Nghlynnog Fawr wrth ddatblygu’r cynllun arloesol yma ac mae eisoes wedi arwain at greu swydd rheolwr llawn amser yn ogystal â swydd ran amser ar gyfer trefnydd a fydd yn gyfrifol am hyrwyddo digwyddiadau a busnesau lleol.

Bydd y ganolfan hefyd yn trefnu amrywiaeth o weithgareddau ar gyfer plant ysgol lleol yn ystod y gwyliau, yn ogystal â theithiau cerdded, darlithoedd a chyrsiau undydd.

Ychwnaegodd Geraint Jones, Cadeirydd Canolfan Hanes Uwchgwyrfai:

“Bwriad y ganolfan yw creu archif deilwng o dreftadaeth gyfoethog hen gwmwd Uwchgwyrfai – ardal sydd â’i thiriogaeth yn ymestyn o odre’r Eifl i’r Bontnewydd, ac sydd hefyd yn cynnwys Dyffryn Nantlle a’r cyffiniau.”

“Bydd y ganolfan fodern a fydd wedi ei lleoli yn hen Ysgoldy Eben Fardd yn sicr o fod o ddiddordeb i blant ac oedolion o bell ac agos fel ei gilydd.”

Cynhelir agoriad swyddogol Canolfan Hanes Uwchgwyrfai yng Nghapel Ebeneser, Clynnog Fawr am 1.30pm ddydd Mawrth, 25 Ebrill, cyn dadorchuddio’r lechen i gofio’r achlysur yn Ysgoldy Eben Fardd yn y pentref.

Y siaradwr gwadd fydd yr Athro Hywel Teifi Edwards, a fydd yn trafod gwaith a bywyd lliwgar Eben Fardd.

 



Methu dod o hyd i'r hyn roeddech yn chwilio amdano? Defnyddiwch yr A-Y neu chwiliwch y wefan
Diweddarwyd: 21/04/2006
 
Telerau ac Amodau|Preifatrwydd a Chwcis|© Hawlfraint Cyngor Gwynedd 2009
Sgipio i [ brig y dudalen ]