Map o'r wefan  |  Maint testun: A (arferol) | A (canolig) | A (mawr)  |  Cyferbyniad: A (arferol) | A (canolig) | A (uchel)  |  Hygyrchedd  |  Cymorth

Cyngor Gwynedd Council

   
CartrefCysylltu â niGwnewch o ar-leinA-Y o wasanaethauAdrannauMapiauFy NghyfrifEnglish
Rydych chi yma: Cartref > Y Cyngor a Democratiaeth > Cyllidebau a Gwariant y Cyngor
 

Paru Data

Fel awdurdod cyhoeddus, mae'n ofynnol i Gyngor Gwynedd, yn unol â'r gyfraith, ddiogelu'r arian cyhoeddus a weinyddir ganddo. Gallwn rannu gwybodaeth a roddir i ni â chyrff eraill sy'n gyfrifol am archwilio neu weinyddu arian cyhoeddus er mwyn atal a chanfod twyll.

Ym mis Hydref 2012, bydd y cyfnod diweddaraf o’r ymarferiad paru data i bwrpas atal twyll, sydd yn cael ei adnabod fel y Menter Twyll Cenedlaethol (“NFI”), yn cychwyn. Bydd data Cyngor Gwynedd, ynghyd â data cyrff cyhoeddus eraill, yn cael ei gyflwyno i’r Archwilydd Cyffredinol Cymru.

 

Mae'r Archwilydd Cyffredinol Cymru yn gyfrifol am gynnal ymarferion paru data yn unol â'i bwerau o dan y Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004.

Mae paru data yn cynnwys cymharu cofnodion cyfrifiadurol a ddelir gan un corff yn erbyn cofnodion cyfrifiadurol eraill a ddelir gan yr un corff neu gorff arall i weld i ba raddau maent yn paru. Gwybodaeth bersonol yw'r data hwn fel arfer. Mae paru data cyfrifiadurol yn golygu bod modd adnabod ceisiadau a thaliadau twyllodrus. Pan gaiff data ei baru mae'n dynodi anghysondeb posib y mae angen ymchwilio iddo ymhellach. Ni ellir tybio a oes achos o dwyll, gwall neu esboniad arall hyd nes y cynhelir ymchwiliad.

Mae'r Archwilydd Cyffredinol yn ei gwneud yn ofynnol i’r awdurdod hwn ddarparu gwybodaeth sydd ganddo at y diben hwn. Mae'n ofynnol i'r Cyngor roi setiau penodol o ddata i'r Archwilydd Cyffredinol er mwyn eu paru. Mae'r manylion wedi eu gosod ar wefan Swyddfa Archwilio Cymru, www.wao.gov.uk

Ar hyn o bryd mae Archwilydd Cyffredinol Cymru, yn unol â Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004, fel y’i addaswyd gan y Ddeddf Troseddau Difrifol 2007, yn ei gwneud yn ofynnol i ni gymryd rhan yn eu hymarfer atal twyll. Ar gyfer y fenter hon, rydym yn darparu manylion isod er mwyn eu cymharu â gwybodaeth a ddarperir gan gyrff cyhoeddus eraill:

·         unigolion sydd yn cael eu cyflogi gan y Cyngor a’r rhai sy’n derbyn pensiwn gan y Cyngor

·         tenantiaid tai Cyngor yn ogystal ag achosion hawl i brynu

·         data rhestrau llawn etholwyr (ddim yn rhan o ymarferiad NFI 2012/13)

·         Data Treth Cyngor (ddim yn rhan o ymarferiad NFI 2012/13)

·         preswylwyr mewn cartrefi preifat sydd yn derbyn cymorth ariannol gan y Cyngor

·         dalwyr “bathodynnau glas”

·         dalwyr trwyddedau tacsi, marchnadoedd ac alcohol

·         credydwyr y Cyngor (ddim yn rhan o ymarferiad NFI 2012/13)

·         hawlwyr yswiriant

·         unigolion sydd â thocyn teithio bws am ddim.

 

Gan fod y defnydd o ddata gan yr Archwilydd Cyffredinol mewn ymarfer paru data yn destun awdurdod statudol (Rhan 3A o Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004), nid oes angen cael caniatâd yr unigolion dan sylw o dan Ddeddf Diogelu Data 1998.

Mae prosesau paru data'r Archwilydd Cyffredinol yn destun Cod Ymarfer. Mae hyn er mwyn rhoi cymorth i'r cyrff sy'n ymwneud â pharu data i gydymffurfio â'r gyfraith ac ymarfer da, gan gynnwys cynnal diogelwch data (gweler www.wao.gov.uk).

Am ragor o wybodaeth am bwerau cyfreithiol yr Archwilydd Cyffredinol a'r rhesymau dros baru gwybodaeth benodol, gweler Swyddfa Archwilio Cymru neu cysylltwch â Katrina Febry, NFI, Cydlynydd, Swyddfa Archwilio Cymru, 24 Cathedral Road, Cardiff CF11 9LJ, 029 2032 0616 neu e-bost infoofficer@wales.gov.uk.



Methu dod o hyd i'r hyn roeddech yn chwilio amdano? Defnyddiwch yr A-Y neu chwiliwch y wefan
Diweddarwyd: 21/09/2012
 
Telerau ac Amodau|Preifatrwydd a Chwcis|© Hawlfraint Cyngor Gwynedd 2011
Sgipio i [ brig y dudalen ]