Map o'r wefan  |  Maint testun: A (arferol) | A (canolig) | A (mawr)  |  Cyferbyniad: A (arferol) | A (canolig) | A (uchel)  |  Hygyrchedd  |  Cymorth

Cyngor Gwynedd Council

   
CartrefCysylltu â niGwnewch o ar-leinA-Y o wasanaethauAdrannauMapiauFy NghyfrifEnglish
Rydych chi yma: Cartref >
Rhiant : Tudalen Gymorth |
 

Tudalen Gymorth

Mae'r dudalen yma i'ch helpu i wneud y gorau o'r safle.

Problemau gydag iaith tudalen
Mae ein safle yn ddwyieithog, ond weithiau gallwch weld tudalen Saesneg a chithau yn aros am un Gymraeg, ac i'r gwrthwyneb. Mae botwm iaith yn y gornel uchaf ar y dde ar bob tudalen. I newid iaith mae angen bod eich porwr yn derbyn 'cwcis', mae'r rhain yn cael ei defnyddio i gadw cof o ba iaith yr ydych wedi ei ddewis.

Dim gwybodaeth ar y dudalen
Weithiau mae'n bosib dod ar draws tudalen sydd heb wybodaeth o gwbl arni. Fel arfer mae dau reswm dros hyn:

  • Mae mwy o wybodaeth ar gael yn y ddewislen ar y chwith.
  • Oherwydd y ffordd mae'r safle'n gweithio, weithiau mae'n bosib dod ar draws tudalennau sydd heb eu gorffen. Rydym yn ymddiheuro am hyn a byddwn yn ceisio cael gwybodaeth berthnasol ar y tudalennau yno.

Dod o hyd i wybodaeth
Rydym yn gweithio'n galed i gael gwybodaeth berthnasol a defnyddiol ar ein gwefan, a'i gwneud modd hawdd â phosib i chi ddod o hyd iddo. Mae yna nifer o ffyrdd y gallwch chi chwilio am wybodaeth

  1. Bocs chwilio - gellir defnyddio'r blwch yma i ddarganfod gwybodaeth o unrhyw ran o'r safle. Rhowch eiriau perthnasol yn y bocs chwilio a chliciwch ar 'ewch'. Byddwch wedyn yn gweld rhestr o gysylltau at ddogfennau, wedi eu graddio yn ôl perthnasedd. Gellir hefyd graddio'r canlyniadau yn ôl dyddiad. Mae pob eitem yn y rhestr yn cynnwys teitl y ddogfen a disgrifiad byr o'r wybodaeth. Cliciwch ar deitl y dudalen ac fe fyddwch yn mynd yno.
  2. Map y Safle - map sy'n rhestru pob ardal o'r safle, gellir defnyddio'r map er mwyn cael darlun o strwythur y safle.
  3. A - Y - mynegai a-y o'r safle. Chwiliwch o dan B am Busnes, S am Safonau Masnach ac yn y blaen.

Newydd i'r Rhyngrwyd
Mae defnyddio technoleg newydd yn gallu bod yn ddryslyd. Os nad ydych yn gyfarwydd â defnyddio'r we, mae nifer o ffynonellau gwybodaeth defnyddiol ar gael, un o'r rhain yw cyrsiau Webwise y BBC. Mae'r cyrsiau'n rhad ac am ddim ac yn ffynhonnell gwybodaeth ddefnyddiol i ddechreuwyr.

Symud o amgylch y safle
Rydym wedi trio cyfuno nifer o wahanol ffyrdd o ddarganfod gwybodaeth. Mae rhai o'r opsiynau'n cael eu rhestru isod:

  • Defnyddio'r peiriant chwilio - mae'r peiriant yn chwilio drwy'r holl dudalennau
  • Breadcrumb trail (llwybr briwsion bara) - mae'r llwybr yma'n dangos lleoliad y dudalen yn strwythur y safle. Gellir defnyddio'r cysylltau yn y llwybr yma i fynd yn ôl i brif dudalen y categori. Y llwybr ar gyfer y dudalen yma yw Cartref > Tudalen Gymorth,
    sy'n golygu bod y dudalen yma'n dod o dan y dudalen gartref.
  • Allweddi Mynediad - techneg ar gyfer cynorthwyo defnyddwyr sy'n cael trafferth neu sy'n dymuno peidio defnyddio llygoden i symud o gwmpas y safle.
  • Y ddewislen ar y chwith - mae yna dri lliw cefndir gwahanol ar gysylltau'r ddewislen yma, coch, gwyrdd, a llwyd. Pwrpas y cefndir gwyrdd yw dangos pa ardal sy'n rhiant i'r ddogfen bresennol, coch yr ardal sy'n deidiau a neiniau. Mae cefndir llwyd yn cynrychioli tudalen.
  • Y ddewislen gyffredinol - mae'r safle wedi cael ei rhannu yn saith adran, gwasanaethau, cymunedau a byw, addysg a gyrfa, ymweld a hamddena, eich cyngor, digwyddiadau a busnes. Pwrpas hyn yw cadw'r wybodaeth sy'n berthnasol gyda'i gilydd.
  • A - Y - mynegai o ardaloedd y safle. Chwiliwch o dan B am Busnes, S am Safonau Masnach ac yn y blaen.
  • Map y Safle - map sy'n rhestru pob ardal o'r safle, gellir defnyddio'r map er mwyn cael darlun o strwythur y safle.

Newid maint testun
Mae'n bosib newid maint testun safle trwy newid gosodiad eich porwr:

Internet Explorer: Dewis View > Text Size > maint sy'n plesio.
Mozilla Firefox Cymraeg: Dewis Golwg > Maint Testun > cynyddu neu leihau.
Mozilla Firefox: Dewis View > Text Size > increase neu decrease.
Opera: Dewis View > Zoom > Wedyn dewis y zoom o'ch dewis.

Gwallau mewn cynnwys tudalen
Rydym yn trio'n gorau i ddod â gwybodaeth ddiddorol a chynhwysfawr i'n darllenwyr, ond yn achlysurol fe geir gwallau. Os ydych yn gweld camgymeriad, rhowch wybod i ni drwy e-bostio: gwefeistr@gwynedd.gov.uk fel bod modd i ni ei gywiro cyn gynted â phosib.


Atodiadau

helpcym.gifGIF Image (GIF Image, 47k)
 

Methu dod o hyd i'r hyn roeddech yn chwilio amdano? Defnyddiwch yr A-Y neu chwiliwch y wefan
Diweddarwyd: 06/01/2009
 

Cysylltau Allanol

 
 
*Nid yw Cyngor Gwynedd yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol

Gweler Hefyd

Telerau ac Amodau|Preifatrwydd a Chwcis|© Hawlfraint Cyngor Gwynedd 2011
Sgipio i [ brig y dudalen ]