I weld ym mha fand eiddo y mae eich cartref, ewch i'r dudalen chwilio am eich band eiddo .
Mae'r tabl isod yn nodi gwerth bandiau eiddo yng Nghymru:
Yr Asiantaeth Brisio sy'n gyfrifol am bennu'r bandiau.
Apelio yn erbyn y band prisio
Unwaith mae eiddo wedi ei osod mewn band neilltuol, ni ellir ei symud i fand arall oni bai:
- fod gwerth yr eiddo wedi codi'n sylweddol am fod gwaith wedi ei wneud arno i'w wella;
- fod gwerth yr eiddo wedi gostwng yn sylweddol am fod rhan ohono wedi ei ddymchwel
- fod newid ffisegol wedi cymryd lle yn yr ardal
- fod yr eiddo wedi ei addasu ar gyfer person anabl.
Yr unig adeg y bydd gwelliannau o'r fath yn cael eu hystyried yw os yw'r eiddo'n cael ei werthu neu os rhoddir les o 7 mlynedd neu ragor arno
Bydd gostyngiadau yn cael sylw ar unwaith.
Mae gennych hawl i apelio os ydych chi'n credu fod eich eiddo yn y band anghywir, ond mae'r rheolau yn weddol gaeth. Cewch apelio o fewn 6 mis os ydych yn drethdalwr newydd neu os yw'r Swyddog Rhestru wedi newid eich band. Chaiff neb apelio ar sail newid cyffredinol ym mhrisiau tai.
Bydd rhaid i chi ddangos fod camddealltwriaeth wedi bod ynglŷn â gwerth eich eiddo, neu bydd rhaid i chi ddangos fod gwerth eich eiddo wedi newid o'i gymharu ag eiddo arall yn yr ardal.
Os ydych am holi ynglŷn â hyn, cysylltwch â:
Y Swyddog Rhestru
Swyddfa Asiantaeth Brisio,
Ty Glyder
339 Stryd Fawr, Bangor,
LL57 1EP
Ffôn : 03000 505505
neu drwy gyswllt electronig i ctwales@voa.gsi.gov.uk
Mae'n rhaid i chi dalu eich Treth Cyngor hyd yn oed os ydych wrthi yn apelio.