Yn gorwedd ar lethrau isel Moel Smytho, mae'r safle cysgodol yma yn cynnig noddfa i fywyd gwyllt Dyffryn Gwyrfai. Yn warchodfa natur leol ers 1994, mae'r safle heddiw yn cynnig cyfle i chi gerdded ymysg rhywogaethau cuddiedig o adar, anifeiliaid a phlanhigion cynhenid, rhai ohonynt yn brin fel y gwybedog brith a ddaw yma o ogledd Affrica i nythu.
Ceir yma lwybr cylch gwastad o gwmpas rhan isaf y warchodfa ger y maes parcio a'r safle picnic, ble gellir gweld a chlywed amrywiaeth mawr o adar ac anifeiliaid llai. I'r rhai mwy mentrus, ceir cylchdaith 1 cilomedr o amgylch gweddill y goedlan, sydd yn eithaf serth a gwlyb dan draed mewn rhai mannau.
Ar agor i chi trwy'r flwyddyn, mae Parc Dudley yn cynnig hafan ddigyffro lle cewch ddianc o sŵn a helbul y byd o'ch cwmpas. Lleolir Parc Dudley ar ochr yr A4085 i'r de o bentref Waunfawr (SH 527 585).