Mae rhan helaeth o Benrhyn Llŷn wedi ei ddynodi yn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol (AHNE).
Mae AHNE Llŷn yn un o bump ardal sydd wedi ei dynodi yng Nghymru. Y rhai eraill yw Penrhyn Gŵyr, Ynys Môn, Bryniau Clwyd, a Dyffryn Gwy.
Prif bwrpas dynodi ardal yn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol yw gwarchod harddwch naturiol yr ardal, sy’n golygu:
- amddiffyn bywyd gwyllt a phlanhigion
- gwarchod nodweddion daearegol a thirlun yr ardal
- gwarchod nodweddion archeolegol, olion hanesyddol a nodweddion pensaernïol.
Mae rheoli'r AHNE yn cynnwys pob agwedd o fywyd yn Llŷn, sy’n amrywio o gadwraeth bywyd gwyllt, twristiaeth, treftadaeth a chaniatâd cynllunio i enwi ond rhai.
Mae AHNE Llŷn hefyd yn gyfrifol am weinyddu’r Gronfa Datblygu Cynaliadwy. Mae'r gronfa hon yn cynnig cymorth grant ar gyfer prosiectau amgylcheddol, economaidd a chymunedol arloesol sy'n datblygu a phrofi ffyrdd newydd o fyw yn fwy cynaliadwy o fewn yr AHNE.
Am fwy o wybodaeth ewch i wefan yr AHNE: www.ahne-llyn-aonb.org