'Nod Amgueddfa Lloyd George a Highgate, cartref ei blentyndod yw dehongli bywyd ac amseroedd David Lloyd George 1863-1945 trwy gasglu, gofalu am ac arddangos eitemau sy'n gysylltiedig ac ef gan ddatblygu'r Amgueddfa a Highgate i fod yn ganolfan teilwng i goffau un o wladweinwyr mwyaf yr ugeinfed ganrif ac yn ganolbwynt gwybodaeth ac ymchwil i hyrwyddo ymwybyddiaeth o'r hyn a gyflawnodd ledled y byd.'
Darganfyddwch fywyd ac amserau David Lloyd George yn yr Amgueddfa a Highgate. Roedd Lloyd George yn un o wladweinwyr mwyaf yr ugeinfed ganrif - cyflwynodd y pensiwn i'r henoed; arweiniodd y wlad fel Prif Weinidog adeg y Rhyfel Byd Cyntaf a rhoddodd y bleidlais i ferched - ond methodd a datrys y problemau yn Iwerddon.
Yn yr Amgueddfa gwelir arddangosfa unigryw o greiriau, ffilm amdano, pen anhygoel sy'n siarad, ystafell ddosbarth Fictorianaidd, llyfrgell, pwynt mynediad i'r we a siop. Ail grëwyd Highgate fel ac yr oedd pan yr oedd Lloyd George yn byw yno yn 1864-1880 yn ogystal â'r gweithdy gwneud esgidiau ei ewythr Lloyd. Gellir hefyd fwynhau yr ardd bwthyn Fictorianaidd.
Amseroedd Agor:
Tal mynediad:
Cyfeiriad:
Amgueddfa Lloyd George,
Llanystumdwy,
Criccieth,
Gwynedd,
LL52 0SH
Ffôn a Ffacs: 01766 522071
E-bost: AmgueddfaLloydGeorge@gwynedd.gov.uk
Mae yn bosib llogi Theatr Lloyd George ar gyfer hyd at 50 o bobl gyda lle i gadeiriau olwyn. I gael mwy o fanylion cysylltwch a'r Amgueddfa.