'Nod Amgueddfa ac Oriel Gwynedd, Bangor yw cyfrannu tuag at ddealltwriaeth o hanes a diwylliant Gwynedd a'i phobl trwy gasglu, gofalu am, a darparu mynediad at ei chasgliadau er mwyn i bawb rannu yn ei threftadaeth gyfoethog.'
Hon yw'r unig amgueddfa gyffredinol yng Ngwynedd. Mae dysgu am ffyrdd o fyw cenedlaethau y gorffennol yn ein galluogi i osod ein profiadau ni yng nghyswllt datblygiad stori. Mae'r ddealltwriaeth hon yn cyfoethogi ein bywydau. O pa ran o'r casgliadau mae eich hoff eitem yn dod? Bydd pob ymwelydd yn gadael gyda chof arbennig o hoff wrthych. Beth fydd eich atgof chi?
Oriel yr Amgueddfa
Byddwch yn siwr o ddod o hyd i rywbeth o ddiddordeb yn yr Oriel. Cynhwysir darluniau, ffotograffau a cherfluniau yn ein rhaglen amrywiol o arddangosfeydd dros dro.
Cyfeillion Amgueddfa ac Oriel Gwynedd, Bangor
Beth am ymuno â'r Cyfeillion? Maent yn cefnogi'r Amgueddfa a'r Oriel mewn amrywiol ffyrdd, ynghyd â darparu digwyddiadau addysgol a chymdeithasol i aelodau.
Siop yr Amgueddfa
Dewch i ymweld â'r siop gyda'i amrywiaeth o grefftwaith safonol... os yn edrych am anrheg arbennig ni chewch eich siomi.
Cofiwch - Defnyddiwch y cysylltau ar y chwith i ddod o hyd i fwy o wybodaeth a map o sut i ddod o hyd i ni.