Y Parc
Yn cuddio yn y gerddi hardd mae nifer o atyniadau o gyfnod teulu Newborough, megis y tŷ cychod a chell y meudwy, yn ogystal â cherfluniau ac atyniadau sydd wedi'u hysbrydoli gan lenorion enwog fel Kate Roberts, Caradog Pritchard a T. Rowland Hughes.
Mae Glynllifon hefyd yn gynefin i nifer fawr o rywogaeth bywyd gwyllt, gan gynnwys dyfrgwn, moch daear, yr ystlum bedol leiaf, a nifer fawr o bysgod ac adar gwahanol.
Tra rydych yma, beth am roi tro ar y:
- llwybr coed - dilynwch y llwybr coed er mwyn darganfod coed hynaf a phrinnaf y gerddi. Cofiwch wisgo esgidiau addas
- picnic - mae byrddau picnic wedi eu lleoli yma a thraw o amgylch y gerddi. Dewch â bwyd gyda chi, a mwynhewch eich cinio yn yr awyr agored
- injan stêm - mae yma injan stêm wedi ei hadfer gan Fred Dibnah - mae’r injan yn un rhai hynaf ym Mhrydain sy’n dal i weithio
Gweithgareddau i grwpiau
Rydym yn croesawu nifer o grwpiau i’r Parc bob blwyddyn, gan gynnwys ysgolion, colegau, clybiau a chymdeithasau amrywiol.
Drwy drefniant o flaen llaw, gallwn drefnu gweithgareddau penodol ar gyfer grwpiau, er enghraifft:
Gall grwpiau hefyd logi'r amffitheatr neu’r ystafell gynhadledd / cyfarfod ar gyfer cynnal digwyddiad eu hunain.
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â ni ar 01286 830222 neu parcglynllifon@gwynedd.gov.uk
Siop ac oriel
Rydym yn gwerthu ac yn arddangos amrywiaeth eang o grefftau lleol o ansawdd drwy gydol y flwyddyn:
- Gwaith celf gwreiddiol
- Gemwaith
- Crochenwaith
- Gwaith gwydr
- Celf llechen
- Gwaith coed
- Ffotograffiaeth
- Cardiau a llyfrau
Gallwch wneud cais i arddangos eich gwaith yn yr Oriel neu siop drwy lenwi’r ffurflen gais a’i ddychwelyd yn ôl i’r Oriel.