Map o'r wefan  |  Maint testun: A (arferol) | A (canolig) | A (mawr)  |  Cyferbyniad: A (arferol) | A (canolig) | A (uchel)  |  Hygyrchedd  |  Cymorth

Cyngor Gwynedd Council

   
CartrefCysylltu â niGwnewch o ar-leinA-Y o wasanaethauAdrannauMapiauFy NghyfrifEnglish
Rydych chi yma: Cartref > Y Cyngor a Democratiaeth > Polisïau a Strategaethau
 

Cynllun Rheoli Carbon

Cynhyrchwyd y Cynllun Rheoli Carbon gyda chymorth yr Ymddiriedolaeth Garbon ac i ymateb i heriau newid yn yr hinsawdd. Mae gan y Cyngor ran allweddol i’w chwarae wrth sicrhau bod ein cymunedau’n cael eu paratoi ar gyfer y dyfodol.

Fel rhan o Fwrdd Gwasanaethau Lleol Gwynedd, mae Cyngor Gwynedd wedi ymrwymo i darged uchelgeisiol o leihau ei allyriadau carbon o 60% erbyn 2021. Cam cyntaf y Cynllun yw ceisio lleihau allyriadau carbon y Cyngor o 30% erbyn 2014/15.

Bydd Cyngor Gwynedd yn buddsoddi £7 miliwn ar brosiectau rheoli carbon er mwyn creu arbedion blynyddol o £900,000 ac er mwyn cyrraedd ei dargedau lleihau allyriadau carbon.

Amcan ehangach Cyngor Gwynedd yw gostwng allyriadau carbon cyffredinol y Sir. Y Cynllun hwn yw’r cam cyntaf ar y ffordd i lwyddo i gael Sir garbon isel.

Gallwch drafod y Cynllun Rheoli Carbon a rhoi unrhyw sylwadau drwy gysylltu â’r Tîm Cadwraeth Ynni.
Ebost: ynni@gwynedd.gov.uk
Rhif ffôn: 01286 679266 / 01286 679307



Astudiaeth Achos



Gwefan Sbarci a Fflic
Mae Sbarci a Fflic yn wefan newydd hwyliog sy'n helpu ysgolion cynradd a disgyblion y sir i geisio arbed ynni. Mae'n codi ymwybyddiaeth am y defnydd o ynni a newid hinsawdd ac yn annog monitro defnydd ynni’r ysgol yn rheolaidd.


Atodiadau

Cynllun Rheoli Carbonpdf (pdf, 762k)
 
 
Astudiaeth Achos - diffodd offer trydanolpdf (pdf, 83k)
 

Ewch i Adobe.com i lawrlwytho'r meddalwedd di-dal Adobe© Reader neu i gael cymorth gyda darllen ffeiliau pdf.


Methu dod o hyd i'r hyn roeddech yn chwilio amdano? Defnyddiwch yr A-Y neu chwiliwch y wefan
Diweddarwyd: 09/05/2013
 

Cysylltau Allanol

 
*Nid yw Cyngor Gwynedd yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol
Telerau ac Amodau|Preifatrwydd a Chwcis|© Hawlfraint Cyngor Gwynedd 2011
Sgipio i [ brig y dudalen ]