Beth yw porthiant newyddion?
Mae porthiant newyddion yn ffordd hawdd i chi weld pan mae gwefannau wedi ychwanegu cynnwys newydd. Gallwch ddarllen y cynnwys newydd, yn syth ar ôl iddo gael ei gyhoeddi, heb orfod mynd i'r wefan lle mae'r wybodaeth yn ymddangos.
Mae porthiant hefyd yn cael ei alw'n RSS - 'Really Simple Syndication' yn Saesneg.
Sut rydw i'n defnyddio porthiant?
Er mwyn defnyddio porthiant rydych angen darllenydd newyddion, sef meddalwedd sy'n chwilio am y porthiant ac yn gadael i chi ddarllen unrhyw ddatganiadau i'r wasg neu nodweddion diweddaraf sydd wedi eu hychwanegu i dudalen gartref gwefan Cyngor Gwynedd. Ar ôl i chi ddewis eich darllenydd newyddion yr unig beth sy'n rhaid i chi ei wneud yw dewis yr wybodaeth rydych chi eisiau ei dderbyn.
Ar hyn o bryd mae Cyngor Gwynedd yn cynnig y ddau borthiant canlynol:
(botwm RSS oren ar waelod bob tudalen)
(botwm RSS oren yn y gongl dde uwchben y rhestr straeon)
I ychwanegu un o'r rhain i'ch darllenydd newyddion ewch i'r dudalen berthnasol a gwnewch un o'r canlynol:
- llusgwch y botwm RSS oren i'ch darllenydd newyddion
- llusgwch gyfeiriad y porthiant o'r bar cyfeiriad i'ch darllenydd newyddion
- torrwch a gludwch gyfeiriad y porthiant o'r bar cyfeiriad i'ch darllenydd newyddion
Mae fersiwn diweddaraf rhai porwyr, gan gynnwys Firefox, Internet Explorer, Opera and Safari, yn chwilio am borthiant yn awtomatig pan rydych yn mynd i wefan, ac yn dangos y botwm RSS oren wrth ganfod porthiant. Mae gan Firefox ac Internet Explorer 7 ddarllenwyr porthiant syml sy'n rhan o'r porwr.
Sut rydw i'n cael darllenydd newyddion?
Mae nifer o wahanol ddarllenwyr newyddion ar gael ac mae rhai newydd yn ymddangos drwy'r amser.
Mae gwahanol ddarllenwyr newyddion yn gweithio ar systemau gweithredu gwahanol, felly mae angen dewis un sy'n gweithio gyda'ch cyfrifiadur chi.