Mae nifer o declynnau ar gael ar y wefan i'w gwneud yn fwy hygyrch i ddefnyddwyr.
Newid maint testun
Gallwch ddewis darllen y wefan mewn un o dri gwahanol faint o destun drwy glicio ar un o'r dair llythyren 'A' ar ochr chwith y wefan, uwchben y botwm 'Cartref'.
Gallwch hefyd newid maint testun drwy ddefnyddio eich porwr:
Internet Explorer: Dewis View > Text Size > maint o'ch dewis
Mozilla Firefox Cymraeg: Dewis Golwg > Chwyddo > Chwyddo Mewn / Chwyddo Allan
Mozilla Firefox: Dewis View > Zoom > Zoom In / Zoom Out
Opera: Dewis View > Zoom > zoom o'ch dewis
Cyferbyniad
Os ydych yn cael trafferth darllen testun y wefan oherwydd lliw'r testun, gallwch ddewis rhwng tair lefel cyferbyniad drwy glicio ar un o'r dair llythyren 'A' ger y gair 'Cyferbyniad' sydd ar ochr chwith y wefan (uwchben y botwm 'Cartref'). I newid yn ôl i'r lliw testun goleuach cliciwch ar y llythyren 'A' gyntaf o'r tair.
Cysylltau sgipio
Er budd defnyddwyr sydd ddim yn defnyddio llygoden gyda'r cyfrifiadur, mae cysylltau sgipio ar y safle sydd yn eich cynorthwyo i symud o amgylch y safle. Defnyddiwch y botwm 'tab' i symud o un cyswllt i un arall, ac yna defnyddiwch y botwm 'enter' er mwyn dilyn y cyswllt.
Os yw Javascript wedi ei alluogi ar eich porwr, ni fyddwch yn gallu gweld y cysylltau sgipio pan ewch ar dudalen am y tro cyntaf. Er mwyn gweld y cysylltau sgipio, ewch i'r dudalen a phwyso’r botwm 'tab' yn syth. Wedi i chi wneud hyn bydd y cysylltau sgipio yn ymddangos ar frig ac ar waelod y dudalen.
Os nad yw Javascript wedi ei alluogi yn eich porwr, bydd cysylltau sgipio yn ymddangos ar frig ac ar waelod y dudalen. Cliciwch ar y botwm 'tab' i ddechrau pori drwy'r cysylltau sgipio
Allweddi mynediad
Gallwch ddefnyddio allweddi mynediad os nad ydych yn dymuno defnyddio llygoden i bori drwy rai rhannau o'r wefan. Dim ond Netscape 6 ac uwch ac Internet Explorer 4 ac uwch sy'n cefnogi allweddi mynediad.
I ddefnyddio'r dechneg hon, dilynwch y camau isod:
i) Pwyswch a dal y botwm Alt (dylai defnyddwyr Macintosh bwyso Ctrl yn hytrach nag Alt).
ii) Pwyswch rif y dudalen o ddiddordeb - cyfeiriwch at y rhestr isod o allweddi mynediad. Dylech ddefnyddio y rhifau sydd uwchben y llythrennau (yn hytrach na'r rhifau ar yr ochr dde) ar eich bysellfwrdd.
iii) Pwyswch Return.
Allweddi mynediad gwynedd.gov.uk
0 – Manylion Allweddi Mynediad
1 – Tudalen Gartref
2 – Prif Ddewislen
3 – Map y safle
4 – Chwilio
5 – Cysylltu â ni
6 – Cymorth
7 – A - Y
8 – Telerau ac Amodau
9 – Preifatrwydd a Chwcis
Testun yn unig
Gallwch bori drwy fersiwn testun yn unig o'r wefan drwy ddewis Testun yn unig ar ragdudalen y safle neu drwy ddewis y cyswllt testun yn unig yma.
Safonau gwe a hygyrchedd
Mae gwefan Cyngor Gwynedd yn defnyddio cod XHTML a steiliau CSS dilys.
Rydym yn anelu i gydymffurfio â safonau hygyrchedd WAI-AA, ac mae'r rhan fwyaf o'n tudalennau yn cyrraedd y safon hwn.
Rydym yn croesawu eich sylwadau ynghylch pa mor hwylus yw'r wefan i'w defnyddio. Gallwch anfon eich sylwadau atom drwy e-bostio gwefeistr@gwynedd.gov.uk