Map o'r wefan  |  Maint testun: A (arferol) | A (canolig) | A (mawr)  |  Cyferbyniad: A (arferol) | A (canolig) | A (uchel)  |  Hygyrchedd  |  Cymorth

Cyngor Gwynedd Council

   
CartrefCysylltu â niGwnewch o ar-leinA-Y o wasanaethauAdrannauMapiauFy NghyfrifEnglish
Rydych chi yma: Cartref
 

Cymorth

Dod o hyd i wybodaeth ar y wefan
Mae sawl dull gwahanol y gallwch ei ddefnyddio i chwilio am wybodaeth ar y wefan hon:

Dod o hyd i wybodaeth

1. Defnyddio'r bocs chwilio
Mae bocs chwilio wedi ei leoli yn y gornel dde ar dop pob tudalen. Er mwyn defnyddio’r bocs chwilio, rhowch y geiriau perthnasol sy’n debygol o fod yn nhestun y dudalen neu’r ddogfen yr ydych yn chwilio amdani yn y bocs, a chlicio ar y botwm ‘Chwilio’. 

Sylwch ar y dudalen canlyniadau chwilio fod canlyniadau’n ymddangos ar gyfer y safle cyfan.  Fodd bynnag, mae’n bosib dewis chwilio rhannau penodol o’r wefan yn unig drwy glicio ar y tabiau sy’n ymddangos uwchben y canlyniadau – Gwefan gyfan / Pwyllgorau / A-Y / Gwefannau perthnasol.

Mae mwy o wybodaeth am sut i ddefnyddio’r system chwilio ar y dudalen Chwilio.

2. A-Y
Mae’r A i Y yn rhestru prif wasanaethau’r Cyngor yn nhrefn y wyddor, a gellir dod o hyd iddo ar dudalen gartref y wefan.

Cliciwch ar lythyren gyntaf y gwasanaeth yr ydych yn chwilio amdano.  Er enghraifft, os ydych yn chwilio am amserlenni bws, gallwch glicio ar A am amserlenni, neu B am bws.  Mae gwybodaeth am amserlenni bws hefyd yn ymddangos o dan C am cludiant cyhoeddus.

3. Map y safle
Mae map y safle yn rhestru’r holl adrannau sydd ar y wefan, a gallwch ei ddefnyddio er mwyn cael darlun o strwythur y wefan.  Gellir dod o hyd i’r botwm sydd yn mynd â chi i fap y safle o dan y blwch chwilio ar bob tudalen.

4. Cysylltau cyflym
Mae’r ddewislen Cysylltau Cyflym sydd ar y dudalen gartref yn mynd â chi’n syth i rannau defnyddiol o'r wefan.  Cliciwch ar y saeth i ddewis yr adran berthnasol, ac yna cliciwch ar Ewch.

 

Symud o amgylch y wefan

Nav Chwith
Ochr chwith y sgrin
Mae’r wybodaeth sydd ar y wefan wedi ei rhannu o dan ddeuddeg prif bennawd sydd wedi eu rhestru yn y brif ddewislen ar ochr chwith y sgrin ar y dudalen gartref. 
Drwy glicio ar y penawdau yn y brif ddewislen, byddwch yn mynd i’r adran honno, a bydd rhestr o is benawdau o fewn yr adran yn ymddangos.  Mae gwahanol fathau o saethau ger y penawdau er mwyn eich helpu i wybod lle rydych chi o fewn y safle.

Saeth dde - rydych chi yma
Saeth i fyny - yr adran / adrannau yr ydych wedi ymweld â nhw er mwyn cyrraedd lle rydych chi o fewn strwythur y wefan

Os nad oes saeth ger y pennawd, mae’n dudalen ar ei phen ei hun heb ragor o benawdau yn perthyn iddi.

Bydd y dewis Prif Ddewislen yn ymddangos ar dop y rhestr ar bob tudalen.  Drwy ddal y llygoden uwch ben y geiriau Prif Ddewislen, bydd y deuddeg prif bennawd yn ail ymddangos.  Cliciwch ar unrhyw un ohonynt i symud i adran arall o’r wefan.  Os ydych yn defnyddio porwr sydd ddim yn cefnogi Javascript, ni fydd y rhestr yn ymddangos, a bydd angen i chi glicio ar y geiriau Prif Ddewislen er mwyn gweld y dewis.

Er mwyn dychwelyd i’r dudalen gartref, cliciwch ar y botwm Cartref sy’n ymddangos ar dop y rhestr ar bob tudalen.   

 

Canol y sgrin
Llwybr briwsion – mae’r llwybr briwsion yn ymddangos ar bob tudalen er mwyn dangos lle o fewn strwythur y wefan yr ydych.  Mae’n bosib clicio ar y penawdau yn y llwybr briwsion er mwyn mynd yn ôl i’r adran honno.

Os oes atodiad i gyd-fynd â’r testun, bydd yn ymddangos ar waelod y dudalen.    Cliciwch ar bennawd yr atodiad, a bydd yn agor yn yr un ffenestr â’r wefan.

 

Nav Dde

Ochr dde y sgrin
Blwch ‘Gweler Hefyd’ – mae’r blwch ‘Gweler hefyd’ yn eich cyfeirio at dudalennau eraill o fewn gwefan Cyngor Gwynedd a allai fod yn berthnasol i’r wybodaeth yr ydych yn edrych arno.  

Blwch ‘Cysylltau Allanol’ – Bydd cysylltau allanol i wefannau a allai fod o gymorth pellach i chi yn ymddangos yn y blwch ‘Cysylltau Allanol’. Os nad oes cysylltau allanol yn cael eu hawgrymu ar gyfer y dudalen, ni fydd y blwch yn ymddangos.

Blwch ‘Cysylltu â ni’ – Mae’r blwch hwn yn ymddangos ar bob tudalen ac yn cynnig gwybodaeth am sut i gysylltu â’r Cyngor, a manylion am sut i anfon sylwadau atom.

 

 

 

 

 

 

 

 

Problemau gydag iaith tudalen
Mae gwefan Cyngor Gwynedd yn defnyddio cwcis i weithio’n ddwyieithog ac i gofio dewis iaith y defnyddiwr.

I’w gwneud yn haws i bori drwy wefan y Cyngor mewn ffordd gwbl ddwyieithog dylai cwcis fod yn weithredol ar eich cyfrifiadur. Os ydych yn dewis peidio â defnyddio cwcis ar eich cyfrifiadur mae’n bosibl na fydd gwefan y Cyngor yn gweithio mewn modd mor soffistigedig.  Mae’n bosibl y byddwch yn mynd i fersiwn Gymraeg y dudalen bob tro wrth i chi bori drwy’r safle a bydd angen i chi glicio ar y botwm English yn y gornel dop ar y dde er mwyn gweld fersiwn Saesneg y dudalen.

Am fwy o wybodaeth am y defnydd o cwcis, ewch i’r dudalen Preifatrwydd a Chwcis .

 


Hygyrchedd
Mae nifer o declynnau ar gael ar y wefan i'w gwneud yn fwy hygyrch i ddefnyddwyr.

Am wybodaeth am newid maint testun, newid cyferbyniad y testun a defnyddio allweddi mynediad, ewch i’r dudalen hygyrchedd .


Newydd i'r Rhyngrwyd
Os nad ydych yn gyfarwydd â defnyddio'r we, mae nifer o ffynonellau gwybodaeth defnyddiol ar gael. Un o'r rhain yw cyrsiau Webwise  y BBC.


 



Methu dod o hyd i'r hyn roeddech yn chwilio amdano? Defnyddiwch yr A-Y neu chwiliwch y wefan
Diweddarwyd: 21/09/2011
 
Telerau ac Amodau|Preifatrwydd a Chwcis|© Hawlfraint Cyngor Gwynedd 2011
Sgipio i [ brig y dudalen ]