Map o'r wefan  |  Maint testun: A (arferol) | A (canolig) | A (mawr)  |  Cyferbyniad: A (arferol) | A (canolig) | A (uchel)  |  Hygyrchedd  |  Cymorth

Cyngor Gwynedd Council

   
CartrefCysylltu â niGwnewch o ar-leinA-Y o wasanaethauAdrannauMapiauFy NghyfrifEnglish
Rydych chi yma: Cartref
 

Preifatrwydd a Chwcis

Preifatrwydd
Mae’n rhaid i chi gael sicrwydd er mwyn cael yr hyder i roi gwybodaeth breifat i’r Cyngor drwy ddefnyddio ffurflenni ar-lein neu gais arall. Mae’n bwysig i ni, pan fyddwch yn dewis gwneud, bod eich preifatrwydd yn cael ei warchod bob amser, a’n bod ni yn ymddwyn mewn ffordd glir a chyfrifol.

Mae gwarchod eich gwybodaeth bersonol yn hynod bwysig – yr unig amser y byddwn angen yr wybodaeth yma fydd i ddarparu gwasanaethau a chreu cynlluniau ar gyfer gwasanaethau eraill yn y dyfodol.

Mae unrhyw wybodaeth bersonol rydych yn ei roi i ni yn cael ei gadw mewn cronfeydd data sydd yn berchen i naill ai Cyngor Gwynedd neu gorff mae'r Cyngor yn ei ddefnyddio i ddarparu gwasanaeth(au) ar lein ar ei ran.

Os na fydd gofyn drwy gyfraith - ni fyddwn yn rhoi unrhyw wybodaeth bersonol i gwmnïau, busnesau neu unigolion.

Pan fyddwch yn defnyddio cardiau debyd i wneud taliadau drwy ein gwefan - treth cyngor ayyb, bydd rhif y cerdyn yn cael ei amgryptio, yn ogystal â nifer fesurau diogelwch eraill. Mae gwybodaeth bellach am hyn ar gael drwy ymweld â Taliadau ar lein.

Cwcis
Pan fyddwch yn ymweld â’n gwefan byddwn yn gofyn i chi dderbyn cwcis oddi ar y wefan hon. Os ydych yn dewis peidio â derbyn cwcis mae’n bosibl na fydd gwefan y Cyngor yn gweithio mewn modd mor soffistigedig.

Ni chedwir gwybodaeth sensitif megis rhifau ffôn neu gyfeiriadau e-bost yn y cwcis. Maent yn cael eu defnyddio yn rhoi gwybodaeth i ni am ymddygiad defnyddwyr ar ein gwefan - pa rannau sydd o ddiddordeb iddynt a pha wasanaethau sy’n cael eu defnyddio amlaf, ayyb. Gellir eu defnyddio hefyd i gofio manylion mewngofnodi ar gyfer rhai gwasanaethau, e.e. ceisiadau am swyddi ar lein.

Mae'r wybodaeth isod yn egluro pa gwcis yr ydym yn eu defnyddio a pham:

Gall Cyngor Gwynedd ddiweddaru’r termau hyn ar unrhyw adeg. Dylech ymweld â’r dudalen hon yn achlysurol er mwyn adolygu’r wybodaeth sydd arni i chi fel defnyddiwr.

 



Methu dod o hyd i'r hyn roeddech yn chwilio amdano? Defnyddiwch yr A-Y neu chwiliwch y wefan
Diweddarwyd: 22/05/2012
 

Cysylltau Allanol

 
 
 
*Nid yw Cyngor Gwynedd yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol
Telerau ac Amodau|Preifatrwydd a Chwcis|© Hawlfraint Cyngor Gwynedd 2011
Sgipio i [ brig y dudalen ]