|
Tudalennau poblogaidd
|
|
Y Diweddaraf...
Bydd cyfnod ymgynghori ffurfiol ar ddyfodol Cartref Preswyl Bryn Llewelyn, Llan Ffestiniog yn cychwyn yn ystod yr wythnos. Mae'r Cyngor wedi paratoi pecyn ymgynghori ar y tri opsiwn posibl ar gyfer y cartref, ac mae gan drigolion, teuluoedd a budd-ddeiliaid hyd at 31 Hydref 2008 i gyflwyno eu sylwadau.
Er mwyn ymgymryd â chyfrif stoc, bydd Archifdy Caernarfon ar gau am wythnos, o 13 Hydref hyd 17 Hydref 2008.
Mae tîm o Uned Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol (AHNE) Llŷn Cyngor Gwynedd wedi bod yn gweithio’n ddyfal dros y misoedd diwethaf i roi gwedd newydd i arwyddion ffordd du a gwyn traddodiadol yr ardal.
Mae Partneriaeth Strategol Plant a Phobl Ifanc Gwynedd yn y broses o ymgynghori ar y ddogfen ddrafft Asesiad Digonolrwydd Gofal Plant. Gallwch ddarllen y ddogfen a chyflwyno eich barn ar y safle hwn.
Ydych chi’n chwilio am ystadegau am Wynedd? Ewch i’r adran newydd ar y wefan hon sy’n cynnwys yr ystadegau diweddaraf am fusnes a’r economi yng Ngwynedd, tai a chymunedau, poblogaeth y sir a llawer iawn mwy.
|
Diweddarwyd: 10/10/2008
|
|
Chwilio
Gwnewch o ar-lein
Cysylltu â ni
Cysylltau llywodraeth
*Nid yw Cyngor Gwynedd yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol
|