


Ceir amrywiaeth helaeth o blanhigion yn yr ardaloedd hyn, sy'n rhoi lloches i lawer o bryfed ac infertebratau, ac mae'r rhain ynghyd â'r ffrwythau a'r hadau yn darparu bwyd ar gyfer sawl math o adar. Bydd yr adar hyn yn defnyddio'r ardal hefyd i lochesu a nythu: y Titw Mawr, yr Aderyn Du, y Fronfraith, y Ji-binc, y Llinos Werdd, y Llinos, Llwyd y Berth, y Robin, y Dryw, y Durtur, y Golomen, y Gwalch Glas, y Cyffylog, y Gwybedog Mannog a'r Gog.