


Gwaith dail yw gwneud bwyd ar gyfer y planhigyn! Mae'n rhaid i blanhigion gael maeth (bwyd) er mwyn iddynt dyfu'n iach
Mae yna ddeunydd gwyrdd yn y dail a elwir yn gloroffyl. Mae'r cloroffyl yn defnyddio golau'r haul i droi dŵr a charbon deuocsid (sef nwy o'r aer) yn fwyd ac ocsigen. Ffotosynthesis yw'r enw ar y broses yma.
Er mwyn cael digon o olau, sylwch fod planhigion yn troi eu dail tuag at yr haul. Mae hyn yn dangos bod planhigion yn sensitif.